Mae Cerys Matthews a BBC Radio 6 wedi ymddiheuro ar ôl i sarhad hiliol gael ei ddarlledu ar sioe’r gantores.

Mewn neges trydar, fe ddywedodd hi na ddylai’r gân ddim bod wedi cael ei chwarae a’i bod yn ceisio dileu’r cymal hiliol.

Fe ddiolchodd i wrandawyr am “roi gwybod” iddi am y geiriau dadleuol – hynny ar ôl iddi gael ei beirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymddiheuro

Ddydd Sul y chwaraeodd Cerys Matthews fersiwn heb ei golygu o Thomas Fraser yn canu cân The Mississipi Shore, oedd yn cynnwys sarhad hiliol.

“Yn anffodus cafodd fersiwn heb ei golygu o’r gân hon sy’n cynnwys term sarhaus ei darlledu mewn camgymeriad ar 6 Music,” meddai datganiad gan BBC Radio 6.

“Rydym yn ymddiheuro os cafodd unrhyw un eu tramgwyddo a byddwn yn gweithio i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.”