Mae grŵp o 18 o fusnesau ym Meirionnydd wedi dod ynghyd er mwyn annog pobol i siopa’n lleol dros y Nadolig.

Maen nhw wedi lansio cynllun tocyn anrheg gall pobol ei wario mewn amrywiaeth o siopau ym Meirionnydd.

Caiff y cynllun ei redeg gan y grŵp busnes Byw.Bod, gwefan newydd a gafodd ei lansio yn y gwanwyn er mwyn hyrwyddo busnesau annibynnol yn yr ardal.

Y Tocyn Anrheg

“Mae eleni wir wedi dangos i ni mor bwysig ydi cefnogi busnesau bach annibynnol sy’n asgwrn cefn i’n cymunedau,” meddai sylfaenydd Byw.Bod, Llinos Griffin.

“Mae’r tocyn anrheg wir yn cynnig rhywbeth arbennig ac yn dangos yr amrywiaeth o ran talent a busnes sy’n bodoli o fewn ein cylch.

“Y peth gwych ydi gall y tocyn anrheg fynd tuag at neges wythnosol, neu fyrgyr, neu cypcecs bendigedig neu sesiwn dysgu Cymraeg, llesiant, neu i fynd am dro efo tywyswyr profiadol ar y fferm, trwy’r goedwig, neu i fyny’r mynydd. Mae’n ddelfrydol fel anrheg Nadolig.”

Dywedodd Nia Roberts o Siop y Gloddfa, Blaenau Ffestiniog: “Mae hi’n fraint i ni fod yn rhan yng nghynllun tocyn anrheg Byw.Bod ac i ni weithio efo’n gilydd fel hyn yn ein trefi a phentrefi…. dyna ydi’r ffordd ymlaen.

“Efallai y bydd hi’n anodd i bobl fynd allan eleni oherwydd rheolau Covid ac hunanynysu, mae’r tocyn anrheg yn wych achos mae’n gweithio fel un safle i chi wneud eich siopa ond yn cynnig rhywbeth i bawb.”