Bydd Llywodraeth Cymru yn “dysgu gwersi” ynglyn â sut i gyfathrebu rheolau’r cloi dros dro, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Dywedodd y bydd gweinidogion yn sicrhau bod siopau yn deall beth maen nhw’n cael a ddim yn cael ei werthu.
Daw hyn ar ôl i Tesco ymddiheuro am atal cwsmeriaid, ar gam, rhag prynu cynnyrch misglwyf yn un o’i archfarchnadoedd yng Nghaerdydd fel rhan o’r mesurau clo newydd, gan awgrymu nad oedd yn “hanfodol”.
“Rhywfaint o ddisgresiwn”
Dydd Llun (Hydref 26), dywedodd Vaughan Gething y bydd y cyfyngiadau a’r canllawiau yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn “deg a chyson.”
“Os oes anghysonderau, byddwn yn ystyried a oes angen diwygio neu gryfhau’r canllawiau, er mwyn ei gwneud yn glir bod gan archfarchnadoedd rywfaint o ddisgresiwn i’w werthu i bobl sydd mewn gwir angen.”
Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn cydnabod bod y gwaharddiad ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn “anodd i bobl eu derbyn”.
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn “parhau i ddysgu gwersi am sut rydym yn gwneud ein gwaith yn effeithiol wrth gyfathrebu â busnesau a’r cyhoedd, ond heb anghofio’r ffaith mai argyfwng iechyd cyhoeddus yw hwn.”
“Amser anodd i bawb yng Nghymru”
Dywedodd Vaughan Gething mai’r wythnos flaenorol oedd “un o’r gwaethaf” yn y wlad ers dechrau’r pandemig, gyda dros 60 o bobl yn marw gyda’r coronafeirws.
“Mae hi’n amser anodd i bawb yng Nghymru,” meddai.
“Dros y pythefnos nesaf, mae’n rhaid i ni i gyd fyw gyda rheolau llym newydd.”
Mwy am y stori hon