Mae Tony Blair, cyn-Brif Weinidog Prydain, wedi dweud na fyddai honiadau heb eu profi wedi atal Greville Janner rhag cael ei benodi i Dŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd y byddai “wedi gwybod” am yr honiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, pan gyflwynodd e ei enw am Arglwyddiaeth yn 1997, wythnosau ar ôl iddo ddod i rym yn Downing Street.

Ond dywedodd wrth yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ei fod hefyd yn ymwybodol fod yr heddlu wedi ymchwilio i’r honiadau a bod yr Arglwydd Janner ei hun wedi eu “gwadu”.

Bu farw’r Arglwydd Janner yn 2015, pan oedd e’n wynebu 22 cyhuddiad o gam-drin rhywiol hanesyddol.

Mewn datganiad i’r ymchwiliad ddydd Mawrth (Hydref 27), dywedodd Tony Blair y byddai “wedi gwybod am yr honiadau a wnaed ym 1991 mewn cysylltiad â’r Arglwydd Janner” yn 1997.

“O dan amgylchiadau, gyda’r Arglwydd Janner yn gwadu’n gyhoeddus, ymchwiliad gan yr heddlu, a chyhuddiadau na chafodd eu dwyn yn ei erbyn, dydw i ddim yn credu y byddai’r honiadau wedi cael eu hymchwilio y tu hwnt i gadarnhau’r ffeithiau hynny, nac wedi dylanwadu ar yr enwebiad,” meddai.

“O dan yr amgylchiadau hynny, a heb y wybodaeth sydd gennym yn awr, nid yw’n glir imi sut y gallai’r broses yn 1997 fod wedi cyrraedd canlyniad gwahanol.”

Clywodd yr ymchwiliad fod enw’r Arglwydd Janner wedi cael ei gynnwys ar restr arglwyddiaeth oes gan Tony Blaid, ddeufis ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog.

Roedd y ffurflen yn ei ddisgrifio fel “cyn-Aelod Seneddol uchel ei barch”, cefnogwr i nifer o elusennau, a chyfrannwr cyson i radio a theledu.

Mae disgwyl i’r ymchwiliad ddod i ben ddydd Gwener (Hydref 30) ar ôl tair wythnos o dystiolaeth am sut yr ymatebodd yr heddlu, erlynwyr a staff cartrefi gofal i honiadau hanesyddol bod yr Arglwydd Janner wedi cam-drin plant bregus.

Daeth adroddiad i’r casgliad yn 2016 fod methiannau gan yr heddlu ac erlynwyr wedi golygu bod tri chyfle wedi’u colli i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn yr Arglwydd Janner – yn 1991, 2002 a 2007.