Mae myfyriwr, sydd heb gael ei enwi, wedi’i ganfod yn farw yn neuaddau preswyl Prifysgol Bangor.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion a pharafeddygon wedi’u galw i ystafell myfyriwr nos Sul (Hydref 25), lle cafwyd hyd i ddyn 26 oed yn farw.

Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

“Yn fuan ar ôl 10pm ddydd Sul Hydref 25, gofynnodd y gwasanaeth ambiwlans i Heddlu Gogledd Cymru fynychu ystafell myfyriwr mewn neuaddau preswyl ym Mhrifysgol Bangor,” meddai llefarydd.

“Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau ffrindiau a pharafeddygon, roedd myfyriwr gwrywaidd 26 oed wedi marw.

“Mae ein cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau’r myfyriwr yn dilyn y farwolaeth drasig hon, a gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod eu “meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r myfyriwr ar yr adeg drist iawn hon”.

“Mae lles myfyrwyr yn flaenoriaeth yn y brifysgol ac rydym yn cynnig cymorth i fyfyrwyr mewn neuaddau ac yn y brifysgol a oedd yn adnabod y myfyriwr,” meddai wedyn.