Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r cyngor ar brynu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol o siopau yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi rhoi gwybod i siopau am drefn sy’n galluogi cwsmeriaid i gael eu heithrio o’r rheolau mewn rhai achosion.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i ben ar Dachwedd 9.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad oes modd “symud oddi wrth yr egwyddor craidd fod rhaid i fanwerthwyr gyfyngu ar werthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol am y cyfnod clo dros dro”.

Ac maen nhw’n dweud mai “atal ymlediad y coronafeirws ac achub bywydau” yw diben y cyfyngiadau, a bod “gofyn i’r cyhoedd barhau i gefnogi’r ymdrechion drwy gyfyngu teithiau a siopa diangen”.

Beth allwn ni ei brynu erbyn hyn?

Mae canllaw Llywodraeth Cymru yn golygu bod modd prynu’r nwyddau canlynol:

  • Bwyd a diod
  • Cynnyrch atodol ar gyfer bwyd a diod, e.e. eitemau tafladwy i storio bwyd gan gynnwys ffoil, bagiau a ffilm blastig
  • Cynnyrch golchi dillad a chynnal a chadw’r cartref, e.e. batris, goleuadau a thanwydd
  • Cynnyrch ymolchi a mislif
  • Meddyginiaethau
  • Nwyddau i fabanod, gan gynnwys dillad
  • Papurau newydd a chylchgronnau
  • Cardiau cyfarchion
  • Bwyd a nwyddau anifeiliaid
  • Cynnyrch cynnal a chadw cerbydau a beiciau

Mwy am y stori hon