Mae Kirsty Williams wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to.

“Wedi tipyn o fyfyrio ar bethau, dw i wedi penderfynu peidio sefyll yn ymgeisydd yn etholiad Senedd y flwyddyn nesa’,” meddai’r Gweinidog Addysg.

“Wrth gwrs mae yna dristwch wrth i mi wneud y penderfyniad yma. Ond hefyd mae yna deimlad o gyrhaeddiad a balchder.”