Mae’r actores 22 oed yn byw yng Nghaeathro, pentref ar gyrion Caernarfon, ac i’w gweld yn ‘Rybish’, cyfres gomedi newydd ar S4C…

Pwy ydach chi’n actio yn Rybish?  

Hogan o’r enw ‘Bobi’ sy’n mynd i weithio i’r ganolfan ailgylchu dros yr Haf, achos bod hi angen pres i fynd ymlaen i deithio ar ôl coleg.

Mae hi wedi astudio Seicoleg ac mae hi’n kinda asesu pawb.

Oedda chi’n nerfus ar ddiwrnod cynta’r ffilmio?

Oeddwn, gan mai dyma fy joban actio gynta’ ers graddio [ar ôl astudio Perfformio yng Nghaerdydd].

Ond roeddan nhw y nerfs da yna, nid y rhai: ‘Oh my gosh, dw i ddim eisiau ei wneud o!’

Ac yn llythrennol, ar ôl y take cynta’, roeddwn i wedi setlo, achos roedd y criw yn dda iawn ac yn gwneud i chdi deimlo’n gartrefol iawn.

Sut brofiad oedd ffilmio mewn swigen, er mwyn cadw at reolau covid?

Mae o dipyn bach fel Big Brother – ti fewn yn y caban yma, efo pedwar camera sydd fel CCTV, a’r unig ddyn camera sydd yna ydy’r un sy’n dy ddilyn di rownd yr iard.

Mae hi’n raglen pry-ar-y-wal yn smalio edrych ar fywydau pobol sy’n gweithio mewn canolfan ailgylchu.

Roedd lot ohono fo’n laff, yn enwedig byw am dair wythnos efo’r cast a’r criw mewn swigen mewn hen westy yng Nghlynnog Fawr.

Ers faint ydach chi’n perfformio?

Wnes i gychwyn cystadlu mewn steddfoda’ yn ifanc iawn, tua pump oed.

Roeddwn i’n mynd o gwmpas y steddfoda’ efo Nain Pwllheli, ac yno tan oriau mân y bore weithiau. Gan mai cystadlu ar y sioe gerdd oeddwn i, a honno oedd y gystadleuaeth ola’, fysa hi’n mynd yn hwyr. Fysa nain a fi yn eistedd yn y cefn yn bwyta brechdannau wy ac yn aros i gael canu!

Oes ganddo chi fwy o waith actio ar y gorwel?

Dim byd! Fyswn i’n licio actio, ond… dw i wedi sbïo ar fod yn gymhorthydd mewn ysgol.

Pa waith arall ydach chi wedi ei wneud?

Fues i’n aelod o Dîm Gofal Cwsmer yn Galeri [Caernarfon] ac roeddwn i’n lyfio gwneud Blaen Tŷ a chael mynd tu ôl llwyfan a chael bod yn rhan o’r byd yna.

Roedd nosweithiau prysur yn Galeri, a pobol fatha: ‘Oh gosh, plîs paid â rhoi fi ar i weithio!’

Ond roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ynddyn nhw, roedd yna gymaint o fynd yna.

Wnaeth Blazin’ Fiddles ddod allan i’r bar i chwarae, a pan oedd Gai Toms yna efo’i sioe Orig, roeddan nhw yn mynd rownd cyn y sioe efo syrcas. Class!

Beth yw eich atgof cynta’?

Trio osgoi cael sws gan Yncl Arwel – roedd o efo mwsdash mor bigog!

Beth yw eich ofn mwya’?

Tywyllwch – dw i’n cysgu efo drws llofft ar agor a golau’r landing ymlaen.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i wedi cerdded llwyth dros locdown a ffeindio llwybrau newydd lleol. Lyfli. A fydda i’n licio gwrando ar natur.

Wna i wneud dosbarth High Intensity Interval Training yn y gym – hanner awr sydyn, ac mae o drosodd!

Beth sy’n eich gwylltio?

Dw i ddim yn un i wylltio yn hawdd… ond mae gas, gas, gas gen i bobol sy’n defnyddio’u ffôns tra’n dreifio.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Ryan a Ronnie, Daisy Cooper o This Country, ‘Michael Scott’ y cymeriad o The Office, yn hytrach na Steve Carell sy’n actio’r cymeriad… a Ricky Gervais, Geraint Thomas, Lowri Morgan, ag Elvis.

A Chris Roberts i wneud barberciw i ni.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Mabli, ci defaid cariad fi, Nils… wnes i gyfarfod Nils Kȁllmark-Williams [beiciwr mynydd o Gymru] yn ystod y locdown. Lockdown love!

Mae ei fam o o Sweden, ac mae o’n beicio mynydd ac wedi bod i’r Junior World Cup a ballu.

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Es i i’r ysgol ar Ddiwrnod y Llyfr fatha Gavin Henson, efo fake tan a fy ngwallt fel mohican.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Roeddan ni’n gwneud y sioe gerdd Sweeney Todd yn coleg, ac ar y noson agoriadol wnes i lithro ar dishw gwlyb oedd ar lawr y llwyfan, ac i fod i edrych fel gwaed.

Yn y curtain call ar y diwedd wnes i lithro wrth sgipio i gyfeiliant cân, a mynd yn fflat ar fy ngwyneb ar y llawr.

Gesh i friction burn ar pen a braich fi, ond y cywilydd wnaeth freifo fwyaf!

Wnes i godi a bowio…

Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?

Parti syrpreis pan oeddwn i’n 18. Yfed yn tŷ tan hanner nos ac wedyn minibus i glwb nos Peep ym Mangor…

Oes yna rywbeth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Oes, ond mae o’n swnio’n sdiwpid… noson o’r blaen, roeddwn i fyny tan tua un y bora yn meddwl am y frechdan pastrami roeddwn i’n mynd i’w chael y diwrnod wedyn.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Guinness neu gwrw lleol.

Beth ydych chi’n hoffi wylio ar y teledu?

Dw i newydd gychwyn gwylio The Crown. Doeddwn i ddim eisiau ei wylio fo achos fod o am y teulu brenhinol.

Ond wedyn, ar ôl iddyn nhw ddod i dre’ [Caernarfon i ffilmio pennod am yr arwisgo yn 1969] wnes i ddechrau gwylio, a dw i’n licio fo.

Pam ddylen ni wylio Rybish?

Mae angen laff, yn ganol hyn i gyd, does?

A dw i ddim yn licio defnyddio’r gair ffresh, ond mae o’n rhywbeth newydd a ffresh i fod ar teli. Does yna ddim byd fel yma wedi bod ar S4C.

Ac mae o’n gomedi reit ysgafn, dim lot o waith meddwl.

A dw i’n meddwl fedar pobol unieithu efo’r cymeriadau.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Rydw i wedi lyfio chwarae efo clustiau ers pan dw i’n hogan fach. Fy nghlustiau i neu glustiau rywun arall, dw i ddim yn meindio!

  • Mae ‘Rybish’ yn cychwyn am 9 nos Wener 30 Hydref ar S4C