Mae tri aelod o gyn-grŵp myfyrwyr sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Hong Kong wedi cael eu harestio o dan gyfraith diogelwch genedlaethol newydd y ddinas.
Cafodd y tri eu harestio ar amheuaeth o gyhoeddi cynnwys yn annog ymwahaniad ar gyfryngau cymdeithasol.
Ymhlith y tri mae Tony Chung, cyn-arweinydd Studentlocalism, oedd yn ceisio sefydlu ‘Gweriniaeth Hong Kong’, a’r ddau gyn-aelod, William Chan a Yanni Ho.
Cafodd y ffaith fod y tri wedi cael eu harestio ei gadarnhau ar dudalen Facebook y grŵp sydd bellach wedi’i ddiddymu.
Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dau ddyn ac un ddynes rhwng 17 a 21 oed ar gyhuddiadau ymwahaniad.
Roedd y tri wedi cael eu harestio o’r blaen o dan y gyfraith diogelwch genedlaethol ym mis Gorffennaf, ar gyhuddiadau o annog ymwahaniad.
Mae’r gyfraith, a gafodd ei gorfodi ar Hong Kong gan lywodraeth ganolog Tsieina, yn cael ei hystyried yn fodd o gosbi ymgyrchwyr ar ôl i brotestiadau yn erbyn y llywodraeth effeithio’r ddinas am fisoedd y llynedd.
Mae’r gyfraith yn gwahardd gweithgarwch sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor mewn materion mewnol.
Gall y troseddau mwyaf difrifol arwain at oes o garchar.