Mae Joe Biden, ymgeisydd y Democratiaid ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, a’i ddirprwy Kamala Harris yn targedu cadarnleoedd y Gweriniaethwyr wythnos cyn yr etholiad.
Bydd Biden yn teithio i Georgia, sydd heb gefnogi ymgeisydd Democrataidd ers 1992, ac yn hwyrach yn yr wythnos, bydd yn ymweld ag Iowa, talaith enillodd yr Arlywydd Donald Trump yn gyfforddus yn 2016.
Yn y cyfamser, bydd Kamala Harris yn teithio i Arizona a Tecsas.
Mae hefyd disgwyl i’r cyn Ddirprwy Arlywydd ymweld â Wisconsin, Michigan a Fflorida dros y dyddiau nesaf.
Mae’r amserlen yn arwydd o hyder gan dîm Biden, sy’n ceisio ymestyn y map etholiadol ac agor mwy o lwybrau er mwyn cyrraedd 270 o bleidleisiau’r coleg etholiadol.
“Adfer cymeriad y genedl”
Dywed Joe Biden ei fod yn addo “adfer cymeriad y genedl” pe bai’n cael ei ethol yn arlywydd.
“Mae hwn yn gyfle i adael gwleidyddiaeth dywyll, flin y pedair blynedd diwethaf y tu ôl i ni,” meddai mewn hysbyseb deledu 60 eiliad.
Ddoe (dydd Llun, Hydref 26), roedd ymgyrchoedd Biden a Trump ill dau wedi ffocysu ar Pennsylvania, gyda Trump yn cynnal rali i filoedd o gefnogwyr, tra bod Biden wedi teithio i’w gartref yn Delaware i gyfarfod grŵp bach o gefnogwyr y tu allan i’w swyddfa yn Chester.
Dywedodd mai “Donald Trump yw’r person gwaethaf bosib i’n harwain drwy’r pandemig”.
Ond mae Trump yn rhybuddio y byddai Biden yn cyflwyno cyfyngiadau llym a diangen.
“Mae’n ddewis rhwng boom Trump neu warchae Biden,” meddai’r arlywydd mewn rali yn Allentown.
Mae Joe Biden ar y blaen yn y rhan fwyaf o bolau opiniwn yn y wlad, tra bod ei fantais mewn nifer o daleithiau allweddol yn fwy cul.