Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi “ar ôl cryn feddwl” na fydd hi’n sefyll yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Bu’n Aelod Cynulliad a Senedd Brycheiniog a Maesyfed ers 1999.

Roedd hi’n gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd o 1999 i 2003, yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru o 2008 i 2016 ac yn Ysgrifenydd Addysg Llywodraeth Cymru ers 2016.

Daw’r cyhoeddiad tua diwedd blwyddyn gythryblus iddi yn sgil yr helynt canlyniadau arholiadau dros yr haf, a dychwelyd plant i’r ysgol yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

‘Tristwch’

“Ar ôl cryn feddwl a myfyrio, dw i wedi penderfynu peidio â sefyll fel ymgeisydd yn etholiad nesa’r Senedd,” meddai Kirsty Williams mewn datganiad.

“Mae yna dristwch, wrth gwrs, wrth wneud y penderfyniad hwn ond fe ddaw â synnwyr o gyflawniad a balchder hefyd.

“Dw i’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’m teulu a dw i’n parhau’n ymroddedig i’m rôl ym Mrycheiniog a Maesyfed ac yn edrych ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda’m holynydd er mwyn sicrhau bod Brycheiniog a Maesyfed yn dychwelyd llais y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.”

‘Pencampwr rhagorol’

Yn ôl Paula Yates, Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. bu Kirsty Williams yn “bencampwr rhagorol” dros ei hetholaeth ers 21 o flynyddoedd.

“Does yna’r un stryd na phentref lle nad oes rhywun yn adnabod rhywun sydd wedi cael cymorth personol gan Kirsty dros y blynyddoedd,” meddai.

Yn ôl Mike German, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bu Kirsty Williams yn “ffrind… a phencampwr rhagorol dros Gymru a rhyddfrydiaeth”.

“Dw i’n gwybod y bydd hi’n parhau i ysbrydoli eraill beth bynnag fydd hi’n ei wneud nesaf a bydd ei gwaddol yn ei hetholaeth a ledled Cymru i’w deimlo am flynyddoedd i ddod.”

Anodd amgyffred 20 mlynedd arall’

Awgrymodd mewn cyfweliad â golwg rai misoedd yn ôl nad oedd ganddi’r “stamina” i aros yn y swydd am flynyddoedd eto.

“A fydda’ i’n dal yma yn fy saith degau [fel Dafydd Êl]?” gofynnodd.

“Duw! Dw i ddim yn siŵr os oes gen i’r stamina! Dw i ddim yn siŵr.

“Byddai hynny’n golygu dros 20 mlynedd arall.

“Duw! Mae yn anodd amgyffred hynny!”

Darllenwch y portread llawn o Kirsty Williams yma.