Mae 60% o bobol Cymru o’r farn fod taith i siopa’n trechu unigrwydd sy’n deillio o’r cyfnod clo.

Yn ôl Ubamarket, mae archfarchnadoedd yn gwneud llawer mwy na gwerthu bwyd.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wrth wraidd cymdeithas, ac yn cynnig cysur i siopwyr wythnosol sy’n methu gadael y tŷ fel arall oherwydd y clo dros dro.

Daeth y clo dros dro 17 diwrnod i rym yng Nghymru ddydd Gwener diwethaf (Hydref 23).

Er bod gofyn i bawb aros gartref yn ystod y cyfnod yma, a bod siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol ynghau, mae hawl gan bobol i deithio i nôl bwyd.

Bydd y cyfnod clo dros dro yn dod i ben ar Dachwedd 9.

Esblygu ac addasu yn sgil y coronafeirws

Eglura Will Broome, prif swyddog gweithredol a sylfaenydd Ubamarket, fod angen i’r sector manwerthu “esblygu ac addasu” yn sgil y coronafeirws.

“Mae’r cloeon wedi amlygu pa mor bwysig yw siopau ac archfarchnadoedd i siopwyr ledled y wlad,” meddai.

“Mae siopau yn rhan ganolog o’n hymdrechion i fynd i’r afael â’r anawsterau a ddaw yn sgil y feirws, yn enwedig gan fod 60% o bobol Cymru o’r farn fod taith i siopa’n trechu unigrwydd.

“Mae siopau yn newid yn gyson, y ciwiau a’r ffyrdd o dalu.

“Ond mae Covid-19 wedi amlygu’r diffyg cyfathrebu rhwng archfarchnadoedd a’u cwsmeriaid.”

Yn ôl Will Broome, mae technoleg yn cynnig yr ateb i gwsmeriaid a siopau.

“Gall ap syml roi rheolaeth i ddefnyddwyr, gan ddileu’r angen am giwiau, ffyrdd o dalu arferol a dryswch ynghylch ble mae cynnyrch.

“Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld sut fydd manwerthu yn y Deyrnas Unedig yn edrych yn y cyfnod ôl-Covid.

“Ond mae un peth yn sicr, gallai technoleg fanwerthu ein helpu i greu’r dyfodol manwerthu yr ydym yn dymuno ei weld.”