Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am eglurder ar frys ynghylch pa gyfyngiadau teithio fydd yn eu lle ar ôl i’r cyfnod clo dros dro ddod i ben ar Dachwedd 9, yn ogystal â’r cymorth fydd ar gael i fusnesau sydd wedi’u taro gan ddiffyg twristiaid i Gymru.

Yn ôl rhai yn y sector, mae pryderon a dicter ynghylch y cyfyngiadau newydd sy’n dilyn misoedd o gyfnod clo cenedlaethol.

Ddoe (dydd Llun, Hydref 26), dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, y byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau wythnos ymlaen llaw ar y ffordd ymlaen.

Ond mae’r diwydiant yn dweud bod hynny’n rhy hwyr o lawer ac y dylai fod wedi’i gyhoeddi fis yn ôl er mwyn cael paratoi ymlaen llaw.

Roedd protest yn Llandudno dros y penwythnos yn sgil y ffordd mae’r diwydiant twristiaeth wedi cael ei effeithio.

Yn ôl amcangyfrifon, mae twristiaeth yn dod â mwy na £3bn i economi’r gogledd bob blwyddyn.

Ac yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, gwariodd twristiaid £6.3bn yng Nghymru yn 2018 wrth i 132,000 o bobol gael eu cyflogi i ddiwallu eu hanghenion.

Busnesau ‘ar eu gliniau’

“Mae busnesau sy’n dibynnu ar yr economi ymwelwyr wedi cael eu bwrw’n galed gan gyfnod clo Llywodraeth Cymru a’r cyfyngiadau teithio ddaeth cyn hynny mewn nifer o rannau o Gymru,” meddai Darren Millar, llefarydd twristiaeth ac adferiad Covid-19 y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae nifer ar eu gliniau gyda swyddi a bywoliaethau yn y fantol.

“Heb sicrwydd ynghylch rhyddid i deithio ar ôl i’r cyfnod clo hwn ddod i ben, bydd nifer o berchnogion busnes yn rhoi’r gorau iddi a byddwn ni’n colli ymwelwyr ffyddlon i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig am byth.

“Rhaid i weinidogion Cymru ddeffro i ddifrifoldeb y sefyllfa hon a chynnig achubiaeth i’r busnesau hyn.”