Mae’r heddlu’n ymchwilio i wrthdrawiad rhwng car Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, a seiclwr yn Llundain.
Mae lle i gredu ei fod e’n gyrru trwy ganol y ddinas ddydd Sul (Hydref 25) pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd y seiclwr driniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Kentish Town yng ngogledd-orllewin y ddinas.
Fe aeth at yr heddlu ar ôl cael galwad ffôn ganddyn nhw, a hynny er mwyn adrodd am y digwyddiad, ac mae e wedi cysylltu â’r seiclwr ers hynny.
Mae lle i gredu ei fod e wedi gadael safle’r gwrthdrawiad ar ôl rhoi ei fanylion i’r seiclwr ond cyn i’r heddlu gyrraedd.
Mae llefarydd ar ran Syr Keir Starmer wedi cadarnhau’r digwyddiad, ac mae’r heddlu’n dweud na chafodd gyrrwr y car, sydd heb ei enwi’n swyddogol, ei arestio na’i rybuddio.