Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau bod “nifer fach” o ddisgyblion yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron yn hunanynysu yn dilyn achos positif o’r coronafeirws yn yr ysgol.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion, mae disgyblion o “fwy nag un grŵp blwyddyn” a staff o’r ysgol yn hunanynysu am gyfnod o bythefnos, i leihau ymlediad posib y feirws.
Mewn datganiad, dywed yr ysgol eu bod nhw wedi cysylltu â disgyblion sydd yn teithio ar yr un bws, gan ofyn iddyn nhw hunanynysu fel rhan o fesurau rhagofal.
“Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond nifer fach o ddisgyblion sy’n gorfod hunanynysu,” meddai llefarydd.
“Mae’r ysgol wedi cysylltu â phob rhiant a byddan nhw hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.”
Mae’r Cyngor yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael prawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw symptomau.