Mae Elfyn Llwyd, y bargyfreithiwr a chyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi galw am adolygu’r dystiolaeth i lofruddiaethau Clydach yn 1999.

Daw hyn wedi i BBC Wales Investigates ganfod tystiolaeth newydd yn ymwneud â’r achos troseddol a gafodd David Morris yn euog o lofruddio pedwar aelod o’r un teulu.

Mae Elfyn Llwyd wedi awgrymu y gallai rheithgor nawr ddod i gasgliad gwahanol.

“Liciwn i weld y Comisiwn [Adolygu Achosion Troseddol] yn edrych ar hyn ar fyrder ac yn cael cyfle i weld rhagor o’r dystiolaeth oedd wedi cael ei gadw rhag yr amddiffyniad,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Petaen nhw’n gweld y dystiolaeth yma, efallai y bydden nhw’n dod i benderfyniad gwahanol, dwi ddim yn gwybod.

“Roedd yna gryn bryder pan oeddwn i ar y pwyllgor cyfiawnder yn San Steffan bod y trothwy yn llawer rhy uchel a’u bod nhw’n llusgo’u traed braidd, yn cymryd blynyddoedd i adolygu yn hytrach nag wythnosau.”

Cyn cyrraedd rheithgor eto, bydd rhaid i David Morris neu ei gyfreithwyr wneud cais am adolygiad a chytuno fod yna sail i apelio.

Cefndir y llofruddiaethau

Ar Fehefin 26, 1999, cafodd tair cenhedlaeth o’r un teulu eu darganfod yn farw yn eu cartref yng Nghlydach ger Abertawe.

Roedd Doris Dawson, ei merch Mandy Power, a’i dwy wyres Emily a Katie wedi eu curo i farwolaeth a chafodd eu cartref ei roi ar dân.

Tair blynedd yn ddiweddarach, yn dilyn yr ymchwiliad mwyaf erioed i lofruddiaeth yn hanes Heddlu De Cymru, cafwyd David Morris yn euog ac fe gafodd e bedair dedfryd oes.

Mae’n gwadu’r llofruddiaethau.

Doedd dim DNA nac olion bysedd yn ei gysylltu â’r drosedd ond daeth cadwyn aur, a gafodd ei chanfod yn y tŷ yng Nghlydach, yn ganolog i’r ymchwiliad.

Gwadodd mai fe oedd berchen y gadwyn, ond dywedodd ei fod wedi ei gadael yn y tŷ ar ôl cael rhyw gyda Mandy Power.

Mae teulu’r rhai a fu farw’n dweud nad oes amheuaeth mai David Morris oedd yn gyfrifol.

Tystiolaeth newydd

Ar ddechrau’r ymchwiliad, roedd amheuaeth fod gan dri heddwas gysylltiad â’r llofruddiaethau.

Y tri oedd Alison Lewis, oedd wedi cael perthynas rywiol â Mandy Power, ei gŵr Stephen Lewis a’i efaill Stuart Lewis.

Cafodd y tri eu harestio ond fe gawson nhw eu diystyru yn 2001.

Ar noson y llofruddiaethau, roedd honiadau bod o leiaf ddau berson wedi’u gweld yn ardal Clydach.

Yn ôl y tyst, un o’r bobol hynny oedd Stephen Lewis.

Mae ymchwiliad y BBC wedi dod o hyd i ddau dyst newydd sy’n dweud iddyn nhw weld o leiaf ddau berson yn ardal Clydach ar y noson.

Daeth yr ymchwiliad hefyd o hyd i gannoedd o ddogfennau oedd heb gael eu rhannu gyda thîm cyfreithiol David Morris.

Mae adroddiadau y bydd cais ffurfiol i adolygu’r achos yn cael ei gyflwyno’n fuan.