Mae corff diwylliannol ar gyfer pobol frodorol Guna Yala yn Panama wedi pleidleisio i wahardd gwisgo masgiau.
Er ei bod hi’n ofynnol i bobol wisgo masgiau oherwydd y cornonafeirws, mae’r corff diwylliannol yn dadlau “nad yw eu pobol wedi arfer” gorchuddio eu hwynebau.
Mae 34,000 o bobol yn perthyn i’r Guna Yala, yr ail grŵp brodorol mwyaf yn Panama yn y Caribî.
Dywedodd Llywodraeth Panama nad oes gan y cynulliad diwylliannol yr awdurdod i benderfynu ar faterion iechyd y cyhoedd ac y byddai cam o’r fath yn fater i gyngres deddfu swyddogol y diriogaeth.
Dywedodd Ausencio Palasio, gweinidog cynorthwyol Panama, mai dim ond y Weinyddiaeth Iechyd sydd â’r pŵer i osod polisi cyhoeddus ar faterion o’r fath, a galwodd y bleidlais yn “gamgymeriad”.
Ar y cyfan, mae grwpiau brodorol y wlad wedi cael eu taro’n galetach gan y coronafeirws.
Dywedodd Ausencio Palasio, aelod o grŵp Ngabe Bugle fod pobol frodorol wedi bod yn dilyn y rheolau hyd yma.
Fodd bynnag, awgrymodd y gallai’r bleidlais fod wedi’i hysgogi gan ddicter o fewn cymunedau brodorol nad yw’r awdurdodau’n cydnabod triniaethau traddodiadol ar gyfer Covid-19.
Mae Panama wedi cofnodi 129,000 o achosion a 2,600 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws.