Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi lladd ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am y ffordd y mae e a’i lywodraeth wedi ymdrin â phandemig y coronafeirws – wrth iddo yntau wynebu pwysau i newid y cyngor ar hawl siopau i werthu nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru dan y lach ar ôl cyflwyno gwaharddiad ar werthu nwyddau mislif, llyfrau a dillad yn ystod cyfnod clo, a’r disgwyl yw y bydd cyngor newydd yn cael ei gyflwyno heddiw (dydd Mawrth, Hydref 27) yn dilyn cyfarfod â chynrychiolwyr o’r sector.

Y bwriad oedd ceisio atal siopau mawr sy’n gwerthu bwyd rhag gwerthu nwyddau tra bod siopau eraill ynghau am nad ydyn nhw’n gwerthu bwyd hefyd.

Mewn rhai achosion, mae rhannau o siopau wedi cael eu gorchuddio â phlastig er mwyn atal cwmseriaid rhag mynd at nwyddau nad ydyn nhw’n hanfodol.

Mae Mark Drakeford yn galw ar archfarchnadoedd i ddefnyddio “disgresiwn” wrth benderfynu pa nwyddau i’w gwerthu.

‘Perthynas â’r Deyrnas Unedig’

Wrth ladd ar Lywodraeth Prydain, dywed Mark Drakeford mewn adroddiad nad yw’r “berthynas â Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel y byddem yn dymuno iddi fod”.

Dyma’r ail waith mewn cyfnod o ddeng niwrnod i Mark Drakeford feirniadu Boris Johnson, wrth iddo ei gyhuddo o ganoli grym yn San Steffan yn fwriadol a pheryglu dyfodol datganoli drwy Fil y Farchnad Fewnol.

“Weithiau’n ddiofal ac weithiau’n fwriadol, yn sgil eu dyhead i ganoli grym a dileu rhwystrau ym mhob cangen o’r llywodraeth i weithredu’r grym hwnnw, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanseilio datganoli,” meddai.

“Mae’r setliad cyfansoddiadol sydd wedi cael ei gefnogi gan bobol Cymru mewn dau refferendwm dan fygythiad difrifol.”