Mae Amy Coney Barrett wedi’i chadarnhau yn aelod o’r Goruchaf Lys, ddyddiau’n unig cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Mae ei phenodiad i olynu’r ddiweddar Ruth Bader Ginsburg wedi bod yn un dadleuol, gyda rhai yn gwrthwynebu’r ffaith fod yr Arlywydd wedi penderfynu llenwi’r set mor agos i’r etholiad ar Dachwedd 3.
Tyngodd ei llw yng ngerddi’r Tŷ Gwyn ochr yn ochr â’r Arlywydd Donald Trump ac o flaen torf o 200 o bobol.
Daw hyn fis ar ôl digwyddiad tebyg yn y Tŷ Gwyn a oedd yn gysylltiedig ag achosion Covid-19, gan gynnwys prawf positif yr Arlywydd.
Bellach, mae dros 225,000 o bobol wedi marw o’r feirws yn yr Unol Daleithiau.
‘Diwrnod Pwysig i America’
Mae dewis yr Arlywydd i benodi Amy Coney Barrett yn debygol o sicrhau mwyafrif ceidwadol o’r llys am flynyddoedd i ddod.
“Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i America,” meddai Donald Trump.
“Mae hi’n un o ysgolheigion cyfreithiol gorau ein cenedl a bydd hi’n gwneud cyfiawnder eithriadol i’r Oruchaf Lys.”
Gallai Amy Coney Barrett ddylanwadu ar nifer o achosion sydd ar y gorwel, gan gynnwys y Ddeddf Gofal Fforddiadwy a rhoi terfyn ar gyfraith iechyd ‘Obamacare’.
Dywedodd Amy Coney Barrett y byddai’n gwneud ei gwaith “heb unrhyw ofn na ffafriaeth.”
“Gwaith barnwr yw gwrthsefyll dewisiadau polisi,” meddai.
Galwodd yr ymgeisydd arlywyddol Joe Biden y dewis yn un digynsail sydd wedi ei ruthro.