Mae mwy na 100,000 o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi yn dilyn tanau mawr yn ne Califfornia sydd wedi anafu dau ddiffoddwr yn ddifrifol.

Collodd cannoedd o gartrefi eu cyflenwadau trydan mewn gwyntoedd cryfion, ac mae hynny wedi arafu’r ymdrechion i ddiffodd y tanau’n sylweddol.

Lledodd y tân gwreiddiol dros 11 milltir sgwâr yn ardal Orange County i’r de o Los Angeles, ac fe ledodd ymhellach wedyn i ardal lle mae 280,000 o gartrefi heb unrhyw fath o reolaeth arno.

Cafodd dau ddiffoddwr, 26 a 31 oed, eu hanafu’n ddifrifol ac maen nhw’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Yn ardal Yorba Linda, bu’n rhaid i o leiaf 10,000 o bobol adael eu cartrefi yn sgil ail dân llai.

Doedd dim modd i hofrenyddion ddarparu nwyddau i bobol oherwydd y gwyntoedd cryfion, ond llwyddodd tancer awyr i hedfan yn ddiweddarach.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd achos y tân gwreiddiol.

Er bod rhannau gogleddol o’r dalaith bellach wedi cael eu cyflenwadau trydan yn ôl, mae rhybudd y gallai gwyntoedd cryfion ddychwelyd dros y dyddiau nesaf.