Mae S4C wedi lansio tair sianel YouTube wedi eu hanelu at blant 11 i 13 oed.

Bydd naw person, sydd wedi cael eu dewis fel ‘Creuwyr Cynnwys’, yn ffilmio a chynhyrchu fideos i’w huwchlwytho ar YouTube, gyda chymorth cynhyrchu gan Boom Cymru.

Dywedodd S4C eu bod yn sefydlu’r tair sianel yma fel ffordd o ymateb i’r newidiadau ym mhatrymau gwylio’r gynulleidfa iau.

Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C

“Mae’n hollol glir bod angen i S4C a chynnwys Cymraeg fodoli ar draws llwyfannau gwahanol ac ar gyfer diddordebau gwahanol er mwyn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol,” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C.

“Ni all un sianel deledu wneud y gwaith yma i gyd rhagor, felly mae gweld tair sianel newydd o gynnwys Cymraeg ar gyfer pobol ifanc yn ddatblygiad pwysig.”

Y tair sianel yw:

  • POPT – cerddoriaeth, y ‘trends’ diweddaraf, a diwylliant poblogaidd
  • Gemau Gamma – gemau
  • Label Deg – steil, harddwch, lles a meddwlgarwch

“Cyffrous”

“Mae wedi bod mor gyffrous gweld y Crewyr Cynnwys yn mynd ati i ddechrau adeiladu eu sianeli dros yr wythnosau diwethaf, a dwi wir yn edrych ymlaen at weld y creadigrwydd yn ffynnu ar Label Deg, Gemau Gamma a POPT wrth iddyn nhw adeiladu eu dilyniant,” meddai Rhodri ap Dyfrig wedyn.

Mae modd gwylio’r sianeli yma:

POPT: https://www.youtube.com/channel/UClXQRgLoWz2qa4rjpFblo0A?view_as=subscriber

Gemau Gamma: https://www.youtube.com/channel/UCOPuNbOdaAcXMZBRrUKc4HA/videos

Label Deg: https://www.youtube.com/channel/UCh7rT7d-4j9qnEmuvM4UwPQ