Mae nifer o Arglwyddi wedi rhybuddio bod Bil y Farchnad Fewnol yn amharchu datganoli yng ngwledydd Prydain ac y gallai “amharchu” y gwledydd datganoledig arwain at annibyniaeth.

Yn eu plith mae’r Farwnes Humphreys o Lanrwst, sy’n dweud bod y ddeddfwriaeth yn “ymosodiad ar ein setliad datganoli” ac yn golygu bod “rheolaeth uniongyrchol o du Lloegr yn dychwelyd”.

Ac mae’n cyhuddo Whitehall o “fynnu rheoli o’r canol yn hytrach na deall a grymuso penderfyniadau lleol”.

Daw ei rhybudd wrth i’r Arglwydd Cormack rybuddio bod y ddeddfwriaeth hefyd yn peryglu dyfodol y Deyrnas Unedig.

Pwerau

“Er eu bod nhw’n gyfyngedig, mae pwerau ein deddfwrfeydd datganoledig a phwerau’r meiri rhanbarthol yn ymddangos fel pe baen nhw’n destun dicter a diffyg ymddiriedaeth o du’r Llywodraeth, ac mae’n ymddangos mai’r ymateb awtomatig yw crafu rheolaeth yn ôl i’r canol,” meddai’r Farwnes Humphreys.

“Fy ngofid ydi bod ymatebion byrbwyll y Llywodraeth hon i gyd yn ychwanegu at y dybiaeth nad yw’r Undeb yn gweithio i’r gwledydd datganoledig.

“A fel dw i wedi’i ddweud mewn cyfraniadau blaenorol, mae hyn yn annog canran gynyddol o bobol yng Nghymru i ddod i’r casgliad mai annibyniaeth ydi’r dyfodol.”

Yr un yw rhybudd yr Arglwydd Cormack, sy’n rhybuddio bod dyfodol y Deyrnas Unedig yn y fantol.

“Allwn ni ddim sathru ar yr hyn sydd wedi’i sefydlu ers rhyw 20 mlynedd neu fwy,” meddai.

“Os ydyn ni’n gwneud hynny, rydym wir yn peryglu dyfodol y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd y byddai annibyniaeth a rhwygo’r Deyrnas Unedig yn “drasiedi gyfansoddiadol a gwleidyddol”.

Ymateb

Ond mae’r Arglwydd Callanan, y gweinidog busnes, wedi wfftio sylwadau’r ddau, ac mae’n gwadu bod yna “sathru ar setliadau datganoli ar y gweill”.

“Bydd gweinyddiaethau datganoledig yn caffael dwsinau o bwerau newydd nad ydyn nhw wedi’u gweithredu o’r blaen unwaith rydyn ni’n gadael cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Diben y mesur hwn yw sicrhau bod y pwerau hynny’n cael eu gweithredu mewn modd nad yw’n gwahaniaethu.”