Mae peiriannydd sifil sy’n wreiddiol o Ogledd Swydd Efrog ymhlith y rhai sydd wedi gallu parhau i ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio cyrsiau rhithiol ac ar-lein sy’n cael eu cydlynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dechreuodd Becky Evans, 29, a gafodd ei geni a’i magu yn Harrogate, ddysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod â’i darpar ŵr Huw o Ynys Môn.

Roedd y cwpl yn gweithio fel peirianwyr sifil ar ffordd osgoi’r A483 yn y Drenewydd pan wnaethon nhw gwrdd bedair blynedd yn ôl.

“Roedd cwrdd â Huw a’i deulu a’i ffrindiau yn golygu fy mod i’n ymgolli yn y Gymraeg ar unwaith,” meddai Becky.

“Roedd yn teimlo’n naturiol mod i’n ymuno a dysgu ei siarad hefyd.”

Buodd yn ymarfer gartref gyda Huw, cyn penderfynu cofrestru ar gwrs lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Dw i’n ei fwynhau’n fawr”

Ddwy flynedd yn ôl, ar ôl iddi hi symud i fyw gyda Huw yng Nghaerdydd, aeth Becky ymlaen i ddilyn cwrs ar y lefel nesaf, Sylfaen, gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Genedlaethol.

“Dw i’n ei fwynhau’n fawr,” meddai Becky.

“Cyn Covid, ro’n ni i gyd yn cwrdd yn y dosbarth; nawr ’dan ni’n cymryd rhan mewn gwersi Zoom sy’n gweithio’n dda iawn.

“Rydan ni’n dal i weld ein gilydd, er ein bod ni ar y sgrîn, ac yn ogystal â’r gweithgareddau dosbarth llawn, rydan ni’n rhannu i grwpiau llai mewn sesiynau ‘breakout’ sy’n ffordd wych o ymarfer siarad.

“Mae gennym diwtor gwych o’r enw Mair sy’n hynod gefnogol.”

Cysylltiadau Cymreig

Mae gan Becky gysylltiadau teuluol Cymreig yn Harrogate.

“Mae fy nhaid a nain ar ochr fy nhad yn dod o Sir Benfro yn wreiddiol,” esbonia.

“Dydyn nhw ddim yn siarad Cymraeg eu hunain, ond maen nhw’n falch iawn o’r ffaith fy mod i’n dysgu.”

Mae Becky a Huw yn bwriadu priodi fis Ebrill nesaf, ar ôl gohirio’r dyddiad gwreiddiol ym mis Gorffennaf eleni yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Bydd y briodas yn cael ei chynnal yn Harrogate a bydd y gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg – rhywbeth newydd i’m heglwys leol!”