Mae Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain fod wedi ildio ar fater cinio ysgol yr wythnos ddiwethaf.

Ond yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli Penfro, nid rhoi talebau yw’r ateb tymor hir.

Daw ei sylwadau yn dilyn honiadau am ffrae rhwng Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, a’r Canghellor Rishi Sunak ynghylch cronfa werth £150m i ariannu prydau bwyd yn ystod y gwyliau hanner tymor.

“Dw i’n credu y dylai’r Llywodraeth jyst fynd ati i ymdrin â hyn ar ei ben, ildio ar fater talebau ond dweud yn glir ac yn gadarn iawn nad yw talebau, ar y gorau, yn ddatrysiad tymor hir.

Yn ôl Stephen Crabb, mae’r Llywodraeth wedi creu problemau gwleidyddol iddyn nhw eu hunain ar fater Credyd Cynhwysol wrth geisio arbed arian.

“Rydyn ni ar y trywydd tuag at dorri’n ôl ar yr arian yna ymhen ychydig fisoedd ac i fi, mae hynny’n afresymol,” meddai.

“Allwch chi ddim rhoi arian i rai o’r bobol dlotaf yn y wlad a mynd allan yn gyhoeddus wedyn a dathlu’r ffaith yna, a dweud wedyn, “O, gyda llaw, er efallai ein bod ni’n dal yn byw â chanlyniadau’r pandemig fis Ebrill nesaf, rydyn ni am dorri’r arian yna’n ôl o ryw £20 yr wythnos, £100 y mis.

“Ac mae hynny’n mynd i fod yn fwy fyth o ben tost i’r Llywodraeth na phrydau bwyd yn yr ysgol.”