Mae marwolaeth Ruth Bader Ginsburg, barnwr yn yr Unol Daleithiau, wedi arwain at ffrae danllyd rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid chwe wythnos yn unig cyn etholiad arlywyddol y wlad.

Mae Mitch McConnell, y Gweriniaethwr ac arweinydd mwyafrifol y Senedd, eisoes wedi addo cynnal pleidlais er mwyn rhoi sêl bendith i’r person sy’n cael ei enwebu gan yr Arlywydd Donald Trump i’w holynu.

Ond mae Joe Biden, ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, wedi anghytuno’n chwyrn, gan ddweud y dylid gohirio’r broses tan ar ôl yr etholiad arlywyddol, ac mai “pleidleiswyr ddylai ddewis yr arlywydd, a’r arlywydd ddylau ddewis yr ustus i’w ystyried”.

Ryw awr a hanner yn dilyn y cyhoeddiad am farwolaeth Ruth Bader Ginsburg, cyhoeddodd Mitch McConnell y byddai pleidlais yn cael ei chynnal i ethol ei holynydd, er iddo atal enwebiad Barack Obama a phleidlais adeg etholiad arlywyddol 2016.

Mae Donald Trump wedi talu teyrnged i Ruth Bader Ginsburg, gan ddweud ei bod hi’n “ddynes anhygoel” oedd wedi cael “bywyd anhygoel”.

Ond mae e dan y lach am barhau ag araith yn ystod ei ymgyrch yn dilyn y cyhoeddiad am ei marwolaeth, gan ddweud nad oedd e’n ymwybodol ei bod hi wedi marw.

Dywedodd Joe Biden fod Ruth Bader Ginsburg “nid yn unig yn gawr yn y proffesiwn cyfreithiol ond yn ffigwr annwyl”, gan ychwanegu ei bod hi’n “sefyll dros bob un ohonom”.

Mae’n dweud na ddylid penodi ei holynydd tan ar ôl yr etholiad.

Y bleidlais

Does dim sicrwydd y bydd pleidlais yn Senedd yr Unol Daleithiau i gymeradwyo’r penodiad, hyd yn oed pe bai’r Gweriniaethwyr yn ennill mwyafrif.

Fe all gymryd rhai misoedd i gwblhau’r broses a chynnal gwrandawiadau i drafod enwebeion i’r Goruchaf Lys, ond mae amser yn brin cyn yr etholiad arlywyddol.

Gallai rhai seneddwyr fod yn gyndyn o bleidleisio mor fuan cyn yr etholiad arlywyddol.

Mae gan y Gweriniaethwyr 53 o seddi allan o 100, sy’n golygu y byddai’n dynn ar ymgeisydd Donald Trump ac mai ychydig iawn o gefnogaeth y byddai’n gallu fforddio ei cholli.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Donald Trump fod ganddo fe tua 20 o enwau y gallai droi atyn nhw pe bai swyddi’n dod ar gael yn y llysoedd.

Ond mae’n cael ei ystyried yn dacteg er mwyn ceisio profi ei fod e’n barod i gyfaddawdu ar drothwy’r etholiad.

Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 69 diwrnod i gwblhau’r broses o benodi barnwyr, ond mae llai na hynny bellach cyn yr etholiad arlywyddol.

Mae Joe Biden wedi dweud yn y gorffennol mai dynes groenddu fyddai ei ddewis yntau.

Yn ôl Donald Trump, dewis barnwyr yw’r penderfyniad mwyaf y gall arlywydd ei wneud.