Mae arweinwyr y gwledydd datganoledig yn galw ar Lywodraeth Prydain am “ymyrraeth frys” i helpu’r diwydiant aerofod.

Mae Mark Drakeford, Nicola Sturgeon, Arlene Foster a Michelle O’Neill wedi anfon llythyr at Boris Johnson, prif weinidog Prydain yn ei annog i sefydlu gweithgor i gynnig cymorth i’r diwydiant yn sgil y coronafeirws.

Fe ddaw yn dilyn honiadau gan undeb Unite fod degau o filoedd o swyddi yn y fantol.

Dywed yr arweinwyr y byddai sefydlu gweithgor “yn dangos bod ein holl lywodraethau wedi ymrwymo o hyd i gydweithio er mwyn adfer y sector hwn sy’n bwysig dros ben i’r Deyrnas Unedig gyfan”.

Byddai’r gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac undebau a chwmnïau sy’n rhan o’r sector.

Ymateb Llywodraeth Prydain

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod y sector yn parhau’n “rhan hanfodol o economi’r Deyrnas Unedig”.

Ac fe ddywed fod y Llywodraeth yn cefnogi’r diwydiant aerofod a hedfan drwy gynnig gwerth £8.5bn o grantiau, benthyciadau a gwarantau allforio.

Mae’n dweud ymhellach y bydd £2bn hyd at 2026 yn cael ei wario ar ddatblygu technoleg i wneud hedfan yn fwy diogel ac yn fwy gwyrdd, gan greu swyddi “am ddegawdau i ddod”.