Mae Alexei Navalny, arweinydd gwrthblaid Rwsia, yn dweud ei fod e’n gallu siarad a symud eto ar ôl cael ei wenwyno â Novichok.

Mae’n derbyn triniaeth o hyd yn yr ysbyty yn yr Almaen ar ôl cael ei gludo yno o Rwsia.

Cafodd ei daro’n wael wrth hedfan i Fosgo ar Awst 20, ac fe gafodd ei symud i’r Almaen ddeuddydd yn ddiweddarach, er bod peth gwrthwynebiad i’r penderfyniad hwnnw.

Novichok gafodd ei ddefnyddio i wenwyno Sergei Skripal a’i ferch Yulia yng Nghaersallog (Salisbury) yn 2018.

Cafodd Alexei Navalny ei gadw mewn coma am fwy nag wythnos tra ei fod e’n derbyn triniaeth, ac fe ddywedodd yr wythnos ddiwethaf ei fod e’n teimlo’n “ddryslyd” ar ôl dihuno ac nad oedd e’n gallu siarad wrth geisio ateb cwestiynau meddyg.

Mae Rwsia yn mynnu o hyd na chafodd ei wenwyno, gan annog yr Almaen i gynnig tystiolaeth i brofi’r gwrthwyneb, ac maen nhw’n cyhuddo cydweithwyr a chyfeillion Alexei Navalny o fynd ag eitemau o’i ystafell allan o’r wlad a allai fod yn ddefnyddio i ymchwiliad.

Ond maen nhw’n dweud iddyn nhw symud yr eitemau er mwyn cynnal ymchwiliad y tu allan i Rwsia am nad ydyn nhw’n ymddiried yn yr awdurdodau i gynnal ymchwiliad teg.