Mae hanes ac etifeddiaeth Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru’n cael eu colli wrth i ddatblygwyr droi enwau Cymraeg yn Saesneg, yn ôl cynghorydd sir yr ynys.
Mae Margaret Murley Roberts yn dweud nad oes gan gynghorwyr y grym i wneud dim byd ond dwyn perswâd ar ddatblygwyr, wrth iddi ymateb i’r bwriad i droi enw hen westy Glynllifon ym Marianglas yn ‘Traeth Bychan Heights’.
Fel rhan o’r datblygiad, bydd eiddo ar gael am £285,000-£500,000 fel cyfle i fuddsoddi a phrynu tai hâf.
“Fel cynghorwyr, allwn ni ddim gorfodi neb,” meddai wrth golwg360.
“Mae ‘na dri ohonon ni yn teimlo mor gry’ am hyn ag unrhyw beth, fod pobol yn gallu dod i mewn, prynu rhywle, newid yr enw ac mae’r hanes yn mynd yn llwyr.”
Er gwaetha’r ymdrechion ers sawl blwyddyn i’r gyfraith warchod enwau Cymraeg, mae Senedd Cymru, a’r Cynulliad cyn hynny, wedi gwrthod y fath alwadau.
“Y broblem ydi, mi aeth o i’r Senedd, neu’r Cynulliad fel oedd o ar y pryd, dair blynedd yn ôl ac mi wrthodwyd fod o yn erbyn y gyfraith i newid enwau llefydd,” meddai.
“Mi gathon nhw gyfle flynyddoedd yn ôl ond doedd y broblem ddim mor ddrwg ag ydi hi rŵan. Mae’n ofnadwy rŵan.”
Enwau hanesyddol
Mae galluogi pobol i symud i mewn a newid yr enwau’n peryglu’r hanes sy’n perthyn iddyn nhw, meddai, gan ychwanegu bod i’r enwau fwy o bwysigrwydd na dim ond yr enwau eu hunain.
“Mae gynnon ni lefydd efo enwau hanesyddol, ac mae ’na reswm bob tro pam fod enw lleol arno fo.
“Mae ’na hanes iddo fo ac mae rhywun yn ei brynu fo un ai fel tŷ hâf neu’n symud i mewn ac maen nhw’n newid yr enw sy’n rhan o’n hetifeddiaeth ni ac mae rhan o’n hanes ni’n cael ei golli yn fan’no achos bod rhywun yn dewis newid yr enw.”
Mae trafodaethau ar y gweill â’r datblygwyr a Senedd Cymru ynghylch y sefyllfa, meddai.
“Dw i’n credu bod ’na berswâd yn trio cael ei wneud ond wedi deud hynny, perswadio yn unig allwn ni wneud.
“Allwn ni ddim gorfodi ac mae o’n mynd i ddod lawr i ba mor dda ydan ni’n eu perswadio nhw. Mae o’n straen.
“Mi gafodd arwydd ei roi i fyny yna ac ers dw i’n gynghorydd yn 2017, yr un peth mae pobol wedi cwyno fwya’ ataf fi ynglyn â fo ydi newid yr enw yma. Maen nhw’n gweld yr enw yn aml ac yn cael eu cythruddo.
“Mae perswâd yn cael ei roi arnyn nhw ar hyn o bryd, iddyn nhw gael sylweddoli.
“Mae’r enw Glynllifon yna beth bynnag 200 o flynyddoedd os nad mwy. Tŷ i longwr, dw i’n credu, oedd o pan gafodd o’i adeiladu gynta’.
“Mae ’na lefydd mwy hynafol fyth sydd yn cael eu newid a’u hailenwi ac mae o’n mynd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb.