Mae protestwyr gwrth-frechu a gwrth-gyfnod clo wedi cael gorchymyn gan yr heddlu i adael Sgwâr Trafalgar yn Llundain ar unwaith neu fe allen nhw gael eu harestio.
Fe fu gwrthdaro ffyrnig rhwng y protestwyr a’r heddlu yn ystod rali brynhawn heddiw (dydd Sadwrn, Medi 19).
Cafodd dwsinau o blismyn eu hatal gan wal ddynol rhag arestio pobol, ond mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n peryglu eu hunain a phobol eraill.
Daw’r digwyddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i Sadiq Khan, Maer Llundain, rybuddio y gall fod angen cyfyngiadau er mwyn arafu ymlediad y feirws yn y ddinas.
Mae’r gyfradd ‘R’ – nifer yr heintiadau ym mhob 100,000 o bobol – wedi codi o 18.8 i 25 erbyn hyn.
Y brotest
Bu’n rhaid i’r traffig yng nghanol dinas Llundain ddod i stop ar gyfer y brotest, ac roedd honiadau bod un protestiwr wedi poeri drwy ffenest tacsi at yrrwr oedd wedi canu ei gorn yn ei rwystredigaeth.
Roedd trefnwyr y rali’n gwerthu crysau T 5G ar gyfer y digwyddiad, gan dynnu sylw at y damcaniaethau yn ymwneud â’r cysylltiad rhwng y rhwydwaith a’r feirws.
Roedd baneri’n galw am ddiswyddo arbenigwyr gwyddonol Llywodraeth Prydain, gan ddweud mai rhywbeth “ffug” yw’r feirws.