Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud y byddan nhw’n symud 11 o gerbydau oddi ar y ffordd yn Nyffryn Ogwen.

Maen nhw wedi trydar llun sy’n dangos y cerbydau wedi cael eu parcio ar ymyl yr A5 unwaith eto.

Fe fu problemau yn yr ardal yn ystod y cyfnod clo ac unwaith eto ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

“Yn anffodus, mae’n rhaid i ni dreulio amser yn cefnogi @TrafficWalesN wrth ymdrin â pharcio anystyriol ac anghyfreithlon ar #A5 #OgwenValley heddiw,” meddai neges ar eu tudalen Twitter.

“Bydd yr 11 o gerbydau hyn yn cael eu symud ar gost i’r perchnogion.”