Mae dau o bobol wedi cael eu saethu’n farw, a 14 yn rhagor wedi eu hanafu, mewn parti yn nhref Rochester yn nhalaith Efrog Newydd.

Daw’r digwyddiad yn dilyn trais yn y ddinas ar ôl i Daniel Prude farw wrth i’r heddlu ei arestio.

Roedd oddeutu 100 o bobol wedi dod ynghyd cyn i’r saethu ddechrau yn oriau mân y bore.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod pwy oedd y saethwr neu saethwyr a pham fod yr ymosodiad wedi digwydd.

Dydy hi ddim yn glir eto faint o saethwyr oedd ynghlwm wrth y digwyddiad.

Dyn a dynes yn eu harddegau neu eu hugeiniau yw’r ddau fu farw, meddai’r heddlu.

Mae lle i gredu nad yw bywydau’r rhai a gafodd eu hanafu mewn perygl, ac maen nhw’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty.