Mae ymweliadau ag ysbytai a chartrefi gofal wedi cael eu hatal am y tro mewn tair ardal yn y de yn sgil pryderon am y coronafeirws.

Dim ond i ymweld â chleifion sy’n dod i ddiwedd eu hoes a chadw cwmni i fenywod beichiog y bydd modd i bobol fynd i ysbytai Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae Cyngor Pen-y-bont hefyd wedi atal ymweliadau â chartrefi gofal am y tro.

Mae ail gyfnod clo wedi’i gyflwyno yn Rhondda Cynon Taf ac mae pryderon y gallai’r feirws ledu i ardaloedd cyfagos.

Yn Rhondda Cynon Taf yr wythnos hon, roedd y gyfradd heintiadau wedi codi’n sylweddol fel bod 83.7 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, tra bo’r gyfradd ym Merthyr yn 56.4 ac yn 30.6 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae pob un o’r tair ardal yn uwch o lawer na’r gyfradd genedlaethol o 23.5 ym mhob 100,000.