Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn rhybuddio bod ail don o’r coronafeirws wedi taro.

Fe ddaw wrth i wyddonwyr ddweud bod y feirws ar led eto trwy rannau helaeth o wledydd Prydain.

Yn ôl SAGE, criw o wyddonwyr Llywodraeth Prydain, mae’r gyfradd ‘R’, sef y gyfradd heintio, wedi codi rhwng 1.1 ac 1.4 sy’n golygu y gallai nifer y bobol sydd wedi’u heintio godi’n sylweddol ac yn gyflym.

Mae cyfnod clo wedi’i gyflwyno mewn sawl ardal yn Lloegr eisoes, ac mae’r llywodraeth yn parhau i adolygu’r sefyllfa.

“Does dim amheuaeth, fel dw i wedi’i ddweud ers wythnosau bellach, y gallwn ni ddisgwyl a’n bod ni’n gweld ail don yn dod i mewn,” meddai Boris Johnson ar ymweliad â chanolfan sy’n prosesu brechlynnau yn Rhydychen.

“Rydyn ni’n ei gweld yn Ffrainc, yn Sbaen, ledled Ewrop – mae wedi bod yn gwbl anochel, dw i’n ofni, y bydden ni’n ei gweld yn y wlad hon.”

‘Gwaeth i ddod’

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr ddoe (dydd Gwener, Medi 18) fod y data diweddara’n awgrymu bod “llawer gwaeth i ddod”.

Mae lle i gredu bod nifer yr achosion wedi dyblu i 6,000 bob dydd yn Lloegr o fewn yr wythnos ddiwethaf.

Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain wrthi’n trafod y posibilrwydd o ailgyflwyno cyfyngiadau yn Lloegr, gan gynnwys gorfodi tafarnau i gau am 10 o’r gloch y nos neu ragor o gyfyngiadau ar gymdeithasu.

Ond mae Boris Johnson yn mynnu nad yw e am weld ail gyfnod clo ar draws y wlad, gan annog pobol i gadw at y “rheol chwech” newydd.

Serch hynny, un opsiwn dan ystyriaeth yw cyfnod clo o bythefnos er mwyn ceisio torri’r gadwyn heintiadau bresennol.

Mae rhannau helaeth o ogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr wedi’u cloi eisoes, ac mae pryderon o hyd am gynnydd yn nifer yr achosion yng Nglannau Mersi, Swydd Caer a Swydd Gaerhirfryn, ac fe fydd cyfres o fesurau’n cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd hynny o ddydd Mawrth (Medi 22).

Dydy’r mesurau hyn ddim yn berthnasol i Bolton na Manceinion Fwyaf, sydd â’u cyfyngiadau eu hunain.

Mae lle i gredu bod cyfnod clo ar ddod yn Llundain.

Mae Llywodraeth Prydain dan y lach o hyd am fethu â sicrhau effeithlonrwydd y system olrhain cysylltiadau.