Mae’r Cyngor Sir Ynys Môn wedi penderfynu canslo Ffair Borth eleni.

Roedd y digwyddiad i fod i’w gynnal ar ddydd Sadwrn, Hydref 24.

Mae’r ffair stryd flynyddol yn denu cannoedd o bobol fel arfer ond gyda phryderon am gadw pellter, a’r posibilrwydd o ymlediad y feirws, doedd gan y Cyngor Sir ddim dewis ond canslo’r digwyddiad.

“Gan ystyried maint y digwyddiad a’r niferoedd sy’n mynychu, doedd dim modd i ni sicrhau’r mesurau diogelwch angenrheidiol er mwyn gallu rheoli’r ffair yn effeithiol o fewn y rheoliadau coronafeirws presennol,” meddai Les Pursglove, Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd.

“Yn wahanol i ffair deithiol a gynhelir ar dir preifat, mae Ffair Borth yn ddigwyddiad ar strydoedd cyhoeddus.

“O ganlyniad, ni fyddai’n bosib rheoli’r niferoedd yn mynychu’r ffair mewn ffordd ddiogel.

“Mae’n bechod ond mae’n rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf ac ni allwn achosi risg pellach o’r feirws yn lledaenu ar yr Ynys.

“Gobeithiwn y bydd modd i’r Ffair ddychwelyd yn ddiogel i’r dref yn 2021.”