Aeth chwe mis heibio ers y brotest gyntaf, ac mae’r protestwyr mor groch ag erioed dros ddemocratiaeth, wrth iddyn nhw floeddio am ryddid a chwyldro wrth orymdeithio drwy ardal siopa Causeway Bay.
Roedd nifer o’r protestwyr yn dal pum bys i fyny, wrth iddyn nhw alw am bum peth, gan gynnwys etholiadau democrataidd a deddfwriaeth newydd.
Yn dilyn sawl protest dreisgar, cafodd y protestiadau eu gwahardd gan yr heddlu, ond fe fu’n rhaid iddyn nhw ildio i’r pwysau sylweddol.
Mae degau o bobol wedi cael eu harestio ac mae’r heddlu wedi bod yn defnyddio nwy ddagrau a chanonau i’w tawelu.
Man cychwyn y protestiadau gwreiddiol oedd yr ymgiprys rhwng Hong Kong a China am rym dros y wlad, sy’n annibynnol ers 1997.