Mae Nicola Sturgeon yn mynnu nad yw hi’n gofyn i Lafur gefnogi ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, ond ei bod hi’n disgwyl iddyn nhw “barchu’r egwyddor”.

Mae’n dweud y gallai Llafur fod yn dibynnu ar gefnogaeth y pleidiau eraill er mwyn sicrhau mwyafrif yn dilyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Ac mae’n dweud na fyddai’r SNP “fyth” yn gwneud unrhyw beth i agor y drws i Boris Johnson a’r Ceidwadwyr.

Pe bai’r SNP mewn sefyllfa i fargeinio, mae’n dweud y byddai’r hawl i gynnal refferendwm arall yn rhan hanfodol o’r trafodaethau.

‘Dylai pobol yr Alban benderfynu’

“Os yw’r Alban yn pleidleisio dros yr SNP mewn senedd grog, gan roi grym enfawr i’r Alban, yna byddaf yn defnyddio’r hawl yn y lle cyntaf yn unol â lles yr Alban,” meddai.

“Efallai nad yw Llafur yn deall yn iawn yr hyn y byddai angen iddyn nhw ei wneud i gael gweithredu eu polisïau’n llawn.

“Dw i ddim yn gofyn i Lafur gefnogi annibyniaeth i’r Alban.

“Dw i ddim hyd yn oed yn gofyn iddyn nhw gefnogi’r syniad y dylid cynnal refferendwm annibyniaeth arall.

“Dw i’n gwneud cais rhesymol eu bod nhw’n parchu’r egwyddor sef, na ddylai cynnal refferendwm nac amseru’r refferendwm fod yn faterion i San Steffan i’w penderfynu.

“Dylen nhw fod yn faterion i bobol yr Alban yn y Senedd i’w penderfynu.”