Mae Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei bod hi’n “cadw meddwl agored” am y posibilrwydd o ddod yn brif weinidog Prydain dros dro yn dilyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Mae nifer yn darogan senedd grog yn un o’r etholiadau pwysicaf ers tro yn San Steffan, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio sicrhau mwy o seddi gyda Brexit yn brif bwnc trafod yr etholiad.

“Mae gyda ni’r cyfle o hyd i atal Boris Johnson rhag sicrhau mwyafrif er mwyn gorfodi ei fargen Brexit drwodd, gyda’r posibilrwydd cryf y gallen ni fod allan o’r Undeb Ewropeaidd heb fargen o gwbl mewn ychydig dros flwyddyn,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Felly bydd y dyddiau nesaf yn gwbl hanfodol wrth i bobol benderfynu mewn seddi ymylol ar hyd a lled y wlad.”

Mae’n dweud bod y cyfnod ymgyrchu wedi gweld Boris Johnson a Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, yn closio, a bod angen gweithio tuag at y nod o atal Brexit.

“Fe fyddwn ni’n sicr yn gweithio er mwyn atal Brexit, a gwneud hynny mewn modd cydweithredol ag eraill sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n nod.”