Mae o leiaf 43 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn marchnad boblogaidd yn Delhi Newydd.
Fe fu’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd y fflamau o 100 metr i ffwrdd gan fod y llwybrau ym marchnad Sadar Bazaar yn rhy gul i gerbydau ac am fod ceblau trydanol yn y ffordd.
Gweithwyr ffatri oedd y rhan fwyaf o’r rhai fu farw, ac roedden nhw’n cysgu pan ddechreuodd y tân am oddeutu 5.30yb, yn ôl yr awdurdodau.
Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod a oedd gweithwyr yn gweithio yno’n anhgyfreithlon.
Mae 16 o bobol sydd wedi goroesi’r tân yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am effeithiau’r mwg.
Mae llywodraeth India yn addo y bydd teuluoedd y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu yn derbyn iawndal, ac mae’r prif weinidog Narendra Modi yn dweud bod y digwyddiad yn un “erchyll dros ben”.
Daw’r tân lai na blwyddyn ers i 17 o bobol gael eu lladd mewn tân mewn gwesty chwe llawr yn y ddinas.
Dechreuodd hwnnw mewn cegin.