Mae ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Gŵyr yn dweud bod rhaid buddsoddi mewn ardaloedd y tu allan i ddinasoedd Cymru.

Fe fu John Davies yn ymgyrchu yn ardal Clydach gyda Bethan Sayed ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7), gan rybuddio am “ddiffyg gweledigaeth” Llafur a’r Ceidwadwyr.

Fe fu’r sedd yng ngofal Llafur rhwng 1908 a 2015, cyn i’r Ceidwadwyr ei hennill gyda mwyafrif o ddim ond 27.

Ond cafodd ei hadennill gan Lafur yn 2017 yn dilyn buddugoliaeth Tonia Antoniazzi gyda mwyafrif o 3,269.

Gallai’r etholiad yn yr etholaeth fod ymhlith y rhai pwysicaf drwy holl wledydd Prydain wrth ystyried y canlyniad terfynol yn San Steffan.

‘Gweledigaeth ehangach’

Ond wrth i Lafur a’r Ceidwadwyr frwydro am y sedd unwaith eto, mae Plaid Cymru’n dadlau bod ganddyn nhw “weledigaeth ehangach” ar gyfer yr ardal.

“Rhaid i ni wneud gwell defnydd o’n potensial i fuddsoddi,” meddai’r ymgeisydd John Davies.

“Mae gan Lafur yma a’r Torïaid yn San Steffan ddiffyg gweledigaeth ac maen nhw’n methu â buddsoddi er mwyn datblygu ardaloedd y tu allan i’r dinasoedd canolog.

“Mae gan y Blaid weledigaeth ehangach: byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwella ardaloedd fel Clydach drwy sicrhau buddsoddiad yn yr ardal.

“Fyddwn ni ddim yn canolbwyntio ar ddarn cul o ganol y ddinas wrth ariannu.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Bethan Sayed, yr Aelod Cynulliad.

“Mae gwir angen adfywio a buddsoddiad ar ein trefi llai i gyd,” meddai.

“Does gan Lafur na’r Ceidwadwyr ddim syniadau na chynlluniau.

“Bydd y Blaid yn gweithio’n galed i adfywio’n cymunedau lleol ledled Cymru.”