Mae Tsieina wedi cymeradwyo cyfraith ddadleuol a fyddai’n caniatáu i awdurdodau dorri i lawr ar weithgarwch dreisgar yn Hong Kong.

Fe fu pryderon y byddai’n cael ei defnyddio i dawelu lleisiau’r wrthblaid yn y diriogaeth led-annibynnol.

Mae Tam Yiu-Chung, unig gynrychiolydd Hong Kong ar Bwyllgor Cenedlaethol Cyngres y Bobl, wedi cadarnhau mewn cyfweliad â gohebwyr fod y gyfraith wedi’i phasio.

Atal

Dywedodd na fyddai cosbau’n cynnwys y gosb eithaf, ond nid oedd am ymhelaethu ar fanylion pellach.

“Rydym yn gobeithio y bydd y gyfraith yn atal pobol rhag cynhyrfu,” meddai.

“Peidiwch â gadael i Hong Kong gael ei defnyddio fel teclyn i hollti’r wlad.”

Mae’r ddeddfwriaeth wedi’i hanelu at geisio atal gweithgareddau chwyldroadol a therfysgol, yn ogystal ag ymyrraeth o dramor ym materion y ddinas.

Gwrthwynebiad

Mae’r cadarnhad yn dilyn misoedd o brotestiadau yn erbyn y llywodraeth yn Hong Kong, a fu ar brydiau’n dreisgar y llynedd.

Daeth dros 100 o brotestwyr ynghyd mewn canolfan siopa foethus yn ardal fusnes ganolog Hong Kong yn ddiweddar, gyda sawl un yn dal baner “annibyniaeth Hong Kong” yn ogystal â phosteri yn condemnio’r gyfraith ar ddiogelwch cenedlaethol.

Mae’r gyfraith wedi’i wrthwynebu’n gryf o fewn Hong Kong, ac wedi’i chondemnio gan y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd ac eraill.

Cyn y cyhoeddiad, dywedodd gweinyddiaeth yr Arlywydd Donald Trump yn yr Unol Daleithiau y byddai’n gwahardd allforion amddiffyn i Hong Kong a chyn bo hir y byddai angen trwyddedau ar gyfer gwerthu eitemau i Hong Kong sydd â defnydd sifil a milwrol.

Dywedodd Prydain y gallai gynnig statws preswylydd a dinasyddiaeth i ryw dair miliwn allan o 7.5 miliwn o bobol yn Hong Kong.

Mae Tsieina yn dweud bod pob ymgais o’r fath yn ymyrraeth ddiangen yn ei materion mewnol.