Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, a Phwyllgor Busnes y Senedd wedi cytuno i symud at fodel hybrid ar gyfer cyfarfodydd llawn cyn diwedd y tymor.
Byddai’r Senedd hybrid yn galluogi rhai Aelodau o’r Senedd i fod yn bresennol yn y Siambr gan sicrhau bod rheolau ymbellháu cymdeithasol yn cael eu dilyn, ac Aelodau eraill i gyfrannu’n rhithiol o’u cartrefi.
Drwy gydol y cyfnod clo, mae sesiynau’r Senedd wedi’u cynnal yn rhithiol, ond mae sawl un wedi mynegi barn gref a phryder nad ydi’r drefn honno’n gweithio bellach, a bod angen ail ymuno yn y Siambr er mwyn gallu craffu’n well.
Ymarferol
Y bwriad yw defnyddio model hybrid ar gyfer dwy sesiwn olaf y tymor ar Orffennaf 8 a 15.
Mae Aelodau’r Senedd eisoes wedi pleidleisio dros gyflwyno pleidleisio electronig o bell, a fydd yn galluogi pob Aelod i bleidleisio o’u cartrefi.
Byddai hyn yn disodli’r broses bresennol, lle mae cynrychiolydd o bob grŵp gwleidyddol yn pleidleisio ar ran eu grŵp, ac Aelodau annibynnol yn pleidleisio eu hunain.
“Rydym wedi arloesi a chynnal holl elfennau craidd o waith y Senedd – boed yn gyfarfodydd llawn neu’n waith pwyllgorau drwy gyfarfodydd ar-lein, ac mae wedi bod yn hynod effeithiol hyd yma” meddai Elin Jones, y Llywydd.
“Erbyn hyn, rydym wedi profi ymarferoldeb y model hybrid ac yn teimlo ei bod yn amserol i ni symud at y model hwn.
“Bydd y Senedd hybrid yn cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol tra’n galluogi pob Aelod i gymryd rhan, boed yn rhithiol neu yn y Siambr.
“Mae rhoi pleidlais electronig o bell i bob Aelod hefyd yn gam pwysig i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hanffafrio pe na baent yn bresennol yn y Siambr.
“Dyma’r cam nesaf naturiol o ran sicrhau fod y Senedd yn gallu parhau i gynnal Busnes yn ddiogel ac effeithiol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y model hybrid ar waith.”
Brwdfrydedd
Mae’r awgrym yma am y posibilrwydd o Senedd hybrid wedi ei rannu ers sawl diwrnod bellach.
Yn ôl Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener (Mehefin 26), mae yna “frwdfrydedd” ynghylch y posibiliad o ailddechrau cynnal rhywfaint o fusnes y Senedd oddi ar y we.