Mae cyfyngiadau’r coronafeirws wedi cael eu hailgyflwyno yn ninas Caerlŷr (Leicester) yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion.
Daeth cadarnhad o’r mesurau gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, neithiwr (nos Lun, Mehefin 29), wrth i rannau eraill o Loegr baratoi ar gyfer llacio’r cyfyngiadau ddydd Sadwrn (Gorffennaf 4).
Fel rhan o’r llacio, bydd modd i dafarnau, bwytai a siopau agor eto.
Ond fydd y mesurau hyn ddim yn berthnasol i Gaerlŷr, lle bydd y llefydd hyn ac ysgolion yn cael eu cau eto dros y dyddiau nesaf.
Yn ôl Matt Hancock, mae gan y ddinas gyfradd o 135 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, sydd dair gwaith yn fwy nag unrhyw le arall.
Roedd 10% o holl achosion Lloegr dros yr wythnos ddiwethaf yn y ddinas honno, ac mae ysbytai’n gweld rhwng chwech a deg o bobol yn cael eu derbyn bob dydd, o’u cymharu ag un mewn llefydd eraill.
Mae pobol yn cael eu cynghori bellach i aros gartref oni bai bod rhaid mynd allan, a bydd pobol sydd wedi bod yn cysgodi yn gorfod aros dan do y tu hwnt i Orffennaf 6.
Dywed Matt Hancock y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i adolygu’r mesurau ac yn ymateb yn ôl yr angen rhwng nawr a’r adolygiad sydd wedi’i gynllunio ymhen pythefnos.
Ymateb yr wrthblaid
Mae Jon Ashworth, llefarydd iechyd Llafur yn San Steffan, wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Prydain drwy ei gymharu â’r gêm whack-a-mole, gan gyhuddo’r llywodraeth o gymryd 11 diwrnod i ymateb o gwbl.
“Onid yw [Matt Hancock] yn cytuno, os ydyn ni fel cenedl am lacio’r cyfyngiadau mewn modd esmwyth, yna bydd angen ymateb yn gynt i’r llefydd hynny sy’n gweld cynnydd sydyn, neu byddwn ni’n wynebu’r risg na fydd unrhyw dyrchod daear yn cael eu bwrw?” meddai.
Ymateb busnesau
Mae busnesau wedi ategu pryderon Jon Ashworth, gan ddweud na fydd ailgyflwyno’r cyfyngiadau’n gwneud unrhyw wahaniaeth i’r sefyllfa.
Bydd siopau nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol ynghau o heddiw, tra bydd ysgolion ynghau i’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ddydd Iau (Gorffennaf 2).
Mae Robin Dignall, perchennog siop trin gwallt yn y ddinas, wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “fethu ag ymgynghori ag unrhyw un yn y proffesiwn”.
Yn ôl cyngor y llywodraeth, meddai, mae’n rhaid cadw pellter o hanner metr oddi wrth gleientiaid yn y siopau, a does dim rhaid iddyn nhw wisgo mygydau dros eu hwynebau, dim ond fisor.
Mae’n dweud bod ei fusnes yn colli arian gan nad oes modd cynnig sicrwydd i gleientiaid sydd eisiau trefnu apwyntiadau rai wythnosau ymlaen llaw.
“Gall fod angen i rai pobol aros pedair, pump neu chwech wythnos, efallai mwy, cyn y byddwn ni’n gallu eu gweld nhw,” meddai.
Yn ôl Rakesh Parmar, perchennog siop losin yng nghanol y ddinas, bydd y cyfyngiadau’n bwrw ei fusnes yn “galed dros ben”.
“Fe wnaeth effaith y coronafeirws ein bwrw ni ar Fawrth 23, fe wnaethon ni gau am ddeg wythnos, ac agor eto ar Fehefin 15 – mae wedi bod yn ymdrech hir,” meddai.
“Ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid ei wneud e er diogelwch pawb. Rhaid ei wneud e.”
Mae’n dweud bod y newyddion am gynnydd mewn achosion yn “bryder mawr” gan nad oes sicrwydd eto o ble mae’r achosion wedi dod.