Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae £53 miliwn o arian o gronfeydd amaethyddol wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru heb sicrhau y byddai’n rhoi gwerth am arian.

Nod Rhaglen Datblygu Gwledig yw hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru, ac mae’n cynnwys £522 miliwn o arian Ewropeaidd a £252 miliwn o arian domestig.

Fel rheol, caiff grantiau eu dyfarnu i brosiectau ar ôl cystadleuaeth agored rhwng ymgeiswyr er mwyn sicrhau mai’r prosiectau gorau sy’n cael eu hariannu.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddyfarnu peth arian grant heb gystadleuaeth rhwng mis Ionawr 2016 a mis Ionawr 2019. Ac, mewn rhai achosion, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau heb gymryd unrhyw gamau eraill i sicrhau y byddai’r prosiectau’n rhoi gwerth am arian.

Rhoi hyder i drethdalwyr

Dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: “Mae angen i drethdalwyr deimlo’n hyderus am y ffordd y mae eu llywodraeth yn defnyddio arian cyhoeddus.

“Mae fy adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £53 miliwn o arian grant heb roi sylw digonol i’r angen i sicrhau gwerth am arian.

“Mae’n hollbwysig dilyn egwyddorion llywodraethu da, gwerth am arian, a chynaliadwyedd, i ennyn ac i gynnal yr hyder hwn.

“Os caiff y prosesau a’r gwiriadau sydd ar waith i reoli’r drefn o ddyfarnu grantiau eu llacio neu’u hesgeuluso, oni bai fod y risgiau’n cael eu rheoli’n briodol, mae’n bosibl mai mater o lwc yn hytrach na chrebwyll fydd unrhyw ganlyniad llwyddiannus yn y pen draw, ac mae’n fwy tebygol y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu.”

Dim tystiolaeth o gamau priodol gan Lywodraeth Cymru

Dyfarnwyd £68 miliwn o arian grant drwy broses ‘ceisiadau uniongyrchol’ a bu’r archwilwyr yn archwilio £59 miliwn o’r arian grant hwn.

Er nad oedd cystadleuaeth ar gyfer y cyllid grant doedd dim modd i Lywodraeth Cymru ddarparu unrhyw dystiolaeth i’r archwilwyr yn dangos i’r Llywodraeth gymryd camau priodol i sicrhau gwerth am arian ar gyfer £28 miliwn o’r arian yma a ddyfarnwyd.

O fewn y Rhaglen Datblygu Gwledig, dyfarnwyd £62 miliwn pellach o arian ychwanegol i brosiectau a oedd eisoes ar waith. Bu’r archwilwyr yn archwilio £30 miliwn o’r arian grant hwn.

Yn ôl yr archwilwyr doedd dim tystiolaeth yn dangos bod gwiriadau priodol wedi’u gwneud cyn dyfarnu’r £25 miliwn o’r arian hwn.

Argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru sut i wella, gan gynnwys:

  • Cryfhau’r rheolaethau i sicrhau bod trefniadau goruchwylio, adolygu a herio priodol ar waith
  • Gwella’r modd y mae swyddogion yn cofnodi eu barn, eu gweithredoedd a’u penderfyniadau er mwyn iddynt allu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r rheolaethau
  • Pan fydd yn dyfarnu arian ychwanegol i brosiectau sydd eisoes ar waith, mae angen i Lywodraeth Cymru werthuso’r hyn a gyflawnwyd gan y prosiectau hynny hyd yma