Mae Ysbyty maes Caerfyrddin, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Hamdden y dref, wedi croesawu ei gleifion cyntaf ddoe (dydd Llun 29 Mehefin).
Mae nifer fach o gleifion wedi cael eu symud o Ysbyty Glangwili i Ysbyty Enfys Caerfyrddin lle byddant yn derbyn gofal gan dîm profiadol o nyrsys, therapyddion ac ymgynghorydd preswyl cyn mynd adref.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel dda nad ydy’r cleifion hyn â symptomau Covid-19.
Dros y misoedd diwethaf mae 17 o ysbytai maes wedi cael eu codi ledled y wlad, yn ymateb i’r argyfwng coronafeirws.
Cawson nhw eu sefydlu i ddarparu rhagor o welyau i gleifion pe bai niferoedd achosion yn cynyddu’n ormodol, ond ddechrau mis Mehefin daeth i’r amlwg mai dim ond Ysbyty Maes Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, Caerdydd, oedd wedi ei ddefnyddio.
Ysbyty Enfys Caerfyrddin yw’r ysbyty maes cyntaf i gael ei ddefnyddio gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae’r bwrdd iechyd wedi cyflogi staff dros dro, a chyn aelodau o staff er mwyn staffio’r ysbyty.
Esboniodd Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol yr ysbytai maes a thrawsnewid: “Er bod nifer y cleifion COVID yn ein hysbytai yn lleihau ar hyn o bryd, mae ein hysbytai yn prysuro gyda gweithgaredd meddygol arall ac rydym yn gweld mwy o bobl.
“Bydd agor Ysbyty Enfys Caerfyrddin yn rhyddhau rhywfaint o’r capasiti yn Ysbyty Glangwili ac yn gymorth i ailsefydlu gweithdrefnau brys eraill sydd wedi’u cynllunio.
“Mae ysbytai maes eraill yn y tair sir ar gael i ymateb yn gyflym ac yn hyblyg pe bai uchafbwynt arall mewn achosion COVID sy’n gosod y galw ar ein gwasanaethau.
“Roedd y penderfyniad i agor cyfleuster Caerfyrddin, sydd wedi’i leoli yn y ganolfan hamdden, yn seiliedig ar y broses o fod yn ganolog yn ddaearyddol i fwy o breswylwyr Hywel Dda na safleoedd eraill.”
“Nid yw COVID yn mynd i ddiflannu”
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn anffodus nid yw COVID yn mynd i ddiflannu, ac felly mae angen i ni seilio ein cynlluniau nid yn unig ar sut rydym yn rheoli cleifion COVID, ond hefyd sut y gallwn ailgychwyn gwasanaethau eraill a darparu parhad gofal ar draws y system yn ystod y 12 mis nesaf neu fwy.
“Mae ein gwaith cynllunio a chyflawni yn seiliedig ar gyngor clinigol cenedlaethol a lleol a byddwn yn parhau i wneud hynny, gyda’r nod yn y pen draw o sicrhau bod ein poblogaeth mor ddiogel â phosibl pan fydd angen iddynt ddefnyddio ein gwasanaethau gofal.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r cleifion hyn a’u teuluoedd am weithio gyda ni ac am ein galluogi i ddiogelu ein gwelyau mewn ysbytai, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel yn y lleoliadau newydd hyn hefyd.”
Dydy ysbytai maes eraill Bwrdd Iechyd Hywel Dda heb gael eu defnyddio eto, ac adolygir eu defnydd yn barhaus yn ôl anghenion y GIG a’r newidiadau posibl i’r cyfyngiadau yng Nghymru.