Mae ysgolion yng Nghymru wedi dechrau ailagor am y tro cyntaf ers mis Mawrth oherwydd pandemig y coronafeirws.
Fodd bynnag, mae ysgolion ar Ynys Môn yn parhau i fod ar gau yn dilyn achosion o Covid-19 yng ngwaith prosesu cyw iâr 2 Sisters, ac nid oedd pum ysgol ym Mlaenau Gwent yn gallu ailagor yn dilyn problemau gyda’u cyflenwad dŵr.
Canmol
Ddydd Llun, bu’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn canmol arweinwyr a staff ysgolion am y “gwaith cynllunio enfawr” i groesawu myfyrwyr yn ôl gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiad ar faint dosbarthiadau.
Dywedodd: “I’n penaethiaid, ein hathrawon dosbarth, a’r staff cymorth, diolch yn fawr iawn i chi.
“Rwy’n gwybod bod llawer iawn o waith cynllunio wedi’i wneud i sicrhau bod heddiw a’r wythnosau nesaf yn llwyddiannus.”
Yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach yng Nghaerdydd, dywedodd y Pennaeth, Sarah Coombes, fod y plant wrth eu boddau’n dychwelyd i’r ysgol.
Mae’r ysgol wedi codi “pentref awyr agored” o bebyll yn ei maes chwarae i alluogi disgyblion i gael dosbarthiadau yn yr awyr agored.
Plant “wedi bod yn wych”
Dywedodd Mrs Coombes: “Roedd llawer o’r plant wedi bod allan ers amser maith, felly roedd gallu mwynhau’r profiad ystafell ddosbarth yn yr awyr agored yn berffaith, yn ein tyb ni.
“Mae wedi mynd fel berffaith, ar wahân i golli un babell dros nos. Hedfanodd i ffwrdd gan ei bod yn wyntog iawn!
“Ond mae’r plant wedi bod mor hapus. Maen nhw newydd gario ymlaen fel pe bai dim gwahaniaeth o gwbl. Maen nhw wedi bod yn wych.”
“Paratoi ar gyfer y normal newydd”
Soniodd Cyngor Sir Penfro am “ymdrech enfawr” gweithwyr i baratoi ysgolion, gan gynnwys cyflwyno 14,000 o arwyddion hylendid ac ymbellhau cymdeithasol, 1500 litr o ddiheintydd llaw, a 1270 o flychau tywelion papur.
Dywedodd y Cyngor fod “degau o filoedd o eitemau PPE” wedi’u dosbarthu a 556 o sychwyr llaw ychwanegol wedi’u gosod mewn adeiladau ysgol, tra bod gweithwyr hefyd wedi helpu i gael gwared ar ddodrefn ysgol i wneud lle ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Bydd pethau’n wahanol yn ein hysgolion ond rydyn ni’n paratoi ar gyfer y normal newydd ar gyfer ein dysgwyr, gyda diogelwch disgyblion a staff yn ganolog i bopeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud.”