Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi cadarnhau ei bod hi’n ystyried y posibilrwydd o orfodi pobol sydd am ymweld â’r Alban o rannau eraill o Brydain i dreulio cyfnod mewn cwarantin.
Er i Nicola Sturgeon ddweud nad ydy’r Alban ar hyn o bryd yn bwriadu gorfodi pobol sy’n cyrraedd o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon i fynd i mewn i gwarantin, dywedodd fod yr Alban yn barod i wneud hynny er mwyn “gwarchod iechyd y cyhoedd”.
Yng nghynhadledd ddyddiol Llwyodraeth yr Alban ar y coronafeirws dywedodd y Nicola Sturgeon: “Mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o achosion sy’n dod i’r Alban o fannau eraill”.
Lloegr yn gadael i’r feirws gylchredeg?
Eglurodd mai strategaeth Llywodraeth yr Alban oedd “dod mor agos at ddileu [y feirws] â phosibl”, ond awgrymodd fod Llywodraeth San Steffan yn gadael i’r feirws “gylchredeg ar lefelau uwch”.
Dywedodd Nicola Sturgeon: “Byddwn i’n croesawu datganiad gan y Prif Weinidog [Boris Johnson] fod strategaeth Lloegr yn ymwneud â cheisio dileu’r feirws hefyd, yn hytrach na’r hyn sy’n ymddangos i mi fel, efallai, gadael iddo ei gylchredeg ar lefelau uwch, ar yr amod nad yw’n bygwth y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’n rhaid i ni adolygu’r pethau hyn os ydym am gadw ein lefelau heintio mor isel â phosib.
“Dydw i ddim yn ceisio bod yn orfeirniadol yma, dwi’n bod yn glir iawn gyda phobol beth yw strategaeth Llywodraeth yr Alban, sef dileu’r feirws os gallwn ni wneud hynny.
“Ond dw i am fod yn glir hefyd — os mai dyna yw ein strategaeth a bod gan wledydd eraill neu rannau eraill o’r Deyrnas Unedig ddull gwahanol a allai olygu bod lefelau’r uwch o’r coronafeirws — yna mae’n amlwg bydd yn rhaid i ni wedyn ystyried sut rydym yn sicrhau nad yw nifer yr heintiau yma yn cynyddu.”
“Ddim yn diystyru dim byd”
Pan ofynnwyd a allai mesurau cwarantin pellach ddod i rym ar gyfer teithwyr i’r Alban o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, dywedodd y Nicola Sturgeon: “Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw fesurau ar hyn o bryd, ond dydw i ddim yn diystyru dim byd.”
“Rydym yn cymryd yr amser i ystyried cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch pontydd awyr rhwng rhannau o’r Deyrnas Unedig a gwledydd eraill,” meddai.
“Felly, pe baem yn gweld gwahaniaethau parhaus rhwng cyfraddau a lefelau heintiau yn yr Alban a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, o safbwynt iechyd cyhoeddus, byddai angen i ni ystyried sut i leihau’r cynnydd mewn cyfraddau yn yr Alban.”
O ran pwerau dros fewnfudo a’r ffin, dadleuodd Nicola Sturgeon fod cysylltiad rhwng rheolau cwarantin ac iechyd y cyhoedd ac felly mai o dan reolaeth Llywodraeth yr Alban mae’r pwerau hyn.
Mynegodd ei siom nad oedd y tasglu COBRA brys wedi cwrdd “am wythnosau” a dywedodd y byddai’n croesawu trafodaethau yn ymwneud â’r pedair gwlad cyn i rai penderfyniadau gael eu gwneud.
Agwedd pedair gwlad
Er bod arweinydd Ceidwadol yr Alban Jackson Carlaw yn cydnabod efallai bydd angen cyfyngiadau lleol i leihau ymlediad y feirws mae wedi galw ar Boris Johnson i “ddiystyru unrhyw ymgais i gau’r Alban o weddill y DU.”
Mewn ymateb i sylwadau Nicola Sturgeon dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, Boris Johnson: “O ran cwarantin, rydym wedi cymryd agwedd pedair gwlad am y materion hyn drwyddi draw.
“Rydym wedi cydweithio’n agos â’r gwledydd datganoledig bob amser ac mae hyn yn parhau.”