Mae cyn-Brif Weinidog Ffrainc, Francois Fillon, a’i wraig, Penelope Fillon, sy’n wreiddiol o Sir Fynwy, wedi eu cael yn euog o dwyll.

Cyhuddwyd Fillon o ddefnyddio arian cyhoeddus i dalu ei wraig a’i blant am waith na wnaethant.

Roedd y ddau wedi gwadu’r cyhuddiadau.

Dedfrydwyd Francois Fillon i bum mlynedd o garchar, gyda thair ohonynt wedi’u hatal, a dirwy o 375,000 ewro.

Mae Mr Fillon hefyd wedi ei wahardd rhag ceisio am swydd etholedig am 10 mlynedd.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae’n parhau’n rhydd wrth ddisgwyl apêl.

Cafwyd ei wraig, sy’n wreiddiol o Lanofer yn Sir Fynwy, yn euog fel cyd-droseddwr a chafodd ddedfryd o dair blynedd wedi eu hatal, a dirwy o’r un faint a’i gŵr.

Torrodd y sgandal yng nghyfryngau Ffrainc gwta dri mis cyn etholiad arlywyddol y wlad yn 2017.

Cyn y sgandal roedd Fillon yn geffyl blaen am yr arlywyddiaeth, ond ar ôl colli ei enw da, daeth yn drydydd, gan fethu ail rownd yr etholiad, a enillwyd gan Emmanuel Macron.

Roedd y teulu wedi derbyn mwy na 1 miliwn ewro ers 1998.

Ar ôl dod yn drydydd yn 2017, cefnodd Fillon, a oedd yn Brif Weinidog Ffrainc o 2007 i 2012, ar wleidyddiaeth.

Cyn y dyfarniad dydd llun (29 Mehefin), roedd ansicrwydd ynghylch a fyddai dyfarniad yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais funud olaf gan gyfreithwyr Fillon.

Roedd cyn-bennaeth erlynwyr ariannol Ffrainc, Eliane Houlette, wedi dweud yn gynharach y mis hwn ei bod hi wedi dod o dan bwysau am ei hymdriniaeth o’r achos, gan gyfeirio at oruchwyliaeth agos gan uwch-swyddogion.