Mae landlord tafarn ar ffin Powys â Swydd Amwythig yn wynebu’r sefyllfa “ryfedd” o aros ar gau – a hynny o fewn golwg i ddwy dafarn fydd wedi ailagor, gan eu bod yn Lloegr.

Bydd yfwyr yn Llanymynech, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn gallu dychwelyd i’r Cross Keys a’r Bradford Arms ddydd Sadwrn.

Ond bydd tafarn y Dolphin gerllaw, sydd yng Nghymru, yn parhau ar gau nes bod Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd i dafarndai ailagor.

“Canol y ffordd yw’r ffin”

Mae landlord y Dolphin, John Turner, yn bwriadu croesi’r ffordd i flasu cwrw tafarndai eraill y pentref ddydd Sadwrn.

Dywedodd y gŵr 56 oed, sy’n wreiddiol o ddwyrain Llundain: “Yn amlwg, mae’n sefyllfa anodd oherwydd mae’n debyg mai ni yw un o’r unig dafarndai sydd ar y ffin gyda thafarndai dros y ffordd yn yr un pentref [sydd yn Lloegr].

“Byddan nhw’n agor eu drysau yn y Bradford Arms a’r Cross Keys, ill dau yn Lloegr, ond dim ond 50 llath i ffwrdd.

“Canol y ffordd yw’r ffin felly fyddwn ni ddim yn cael agor ein drysau – ac mae hynny’n eithaf rhwystredig.”

“Rydym wedi cael materion fel hyn o’r blaen, ond mae’r sefyllfa hon yn eithaf rhyfedd,” meddai’r tafarnwr.

“Pigo draw”

“Rwy’n credu ei fod yn 101 diwrnod heddiw ers i ni gau. Po hira’ dw i ar gau, y mwyaf o arian y mae’n costio” pwysleisiodd y tafarnwr.

Ond pan ofynnwyd iddo beth oedd yn bwriadu ei wneud ddydd Sadwrn nesaf, dywedodd Mr Turner: “Mi fydda i’n pigo draw rywbryd a gweld y landlordiaid eraill,” meddai.

“Dydyn ni erioed wedi cystadlu. Ar ddiwedd y dydd mae’n bentref cymunedol gwych.”