Mae undeb UNSAIN wedi honni fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi methu â chynnal asesiadau diogelwch sylfaenol o ran Covid-19, gan roi cannoedd o weithwyr yn y diwydiant  prosesu cig yng Nghymru a Lloegr mewn perygl o gael y coronafirws.

Daw hyn yn dilyn 210 o achosion o’r coronafeirws ymhlith y gweithlu yn ffatri brosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni, a 130 o achosion yn ffatri prosesu cig Kepak ym Merthyr Tudful.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ei fod yn ymchwilio i’r achosion, tra bod y prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Syr Patrick Vallance, wedi dweud y gallai’r tymheredd oer mewn ffatrïoedd fod yn ffactor.

Mae’r undeb, sy’n cynrychioli cannoedd o arolygwyr diogelwch cig a gweithwyr sy’n gweithio mewn lladd-dai â chwmnïau prosesu, wedi bod yn pwyso ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd am asesiadau risg manwl gan fusnesau bwyd ers dechrau’r pandemig.

Dywed yr undeb mai dim ond “asesiadau generig” sydd wedi’u cwblhau gan y mwyafrif.

Mae’r undeb bellach wedi rhoi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ei bryderon, sydd wedi dechrau ymchwiliad i weld a dorrwyd rheolau diogelwch.

Yn ôl UNSAIN, gall cadw pellter cymdeithasol digonol fod yn anodd i weithwyr y diwydiant cig.

“Gwarchod staff a rhoi hyder i gwsmeriaid”

Dywedodd swyddog diogelwch bwyd cenedlaethol UNSAIN, Paul Bell: “Roedd yn amlwg ar ddechrau’r pandemig bod peryglon posibl a difrifol yn y diwydiant cig.

“Mae cynnydd diweddar mewn achosioin Covid-19 yn dangos bod angen gweithredu o’r dechrau.

“Mae angen gweithredu i sicrhau bod busnesau paratoi cig yn ddiogel.

“Mae’n ddealladwy y bydd staff a chwsmeriaid yn poeni, yn enwedig gan fod y rheol dau fetr wedi’i llacio [yn Lloegr].

“Rhaid i bob cyflogwr fod â mesurau diogelwch priodol ar waith ac mae angen i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ymweld â phob gweithle i warchod staff a rhoi hyder i gwsmeriaid.”

Ymateb yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mewn ymateb i hyn dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd wrth Golwg360:

“Mae diogelwch ein staff wedi bod yn brif flaenoriaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ers dechrau COVID-19.

“Ar ddechrau’r clo mawr ym mis Mawrth, gwnaethom ddarparu cyngor penodol ar gyfer y diwydiant cig yn amlinellu’r mesurau yr oedd angen iddynt eu cyflwyno.

“Fe wnaethom hefyd asesu’r risgiau ym mhob ffatri i sicrhau bod ein gweithwyr allweddol yn cael eu hamddiffyn gan sicrhau pellter cymdeithasol priodol a mwy o fesurau hylendid personol.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chyrff iechyd cyhoeddus eraill gan gynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymateb i glystyrau o achosion mewn ffatrïoedd cig.

“Yn dilyn cyngor a thrafodaethau gydag asiantaethau bydd penderfyniadau pellach ar unrhyw fesurau ychwanegol yn cael ei wneud fesul achos.”

Ar ôl derbyn y gŵyn gan UNSAIN ddechrau fis Mehefin, ysgrifennodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei bod wedi gweithredu’n gyfrifol, a’i bod bellach wedi cyhoeddi ateb cynhwysfawr yn nodi’r camau a gymerwyd ganddynt i amddiffyn ei staff.