Mae AS Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Adran Gwaith a Phensiynau o ddiystyru anghenion cymhleth pobl fregus wrth iddi ddod i’r amlwg na fydd gan ganolfan asesu budd-daliadau newydd yng nghanol dinas Bangor unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP (Taliadau Annibyniaeth Bersonol).
Mewn ymateb i lythyr gan Hywel Williams AS, cadarnhaodd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, y Farwnes Stedman-Scott, nad oes unrhyw gynlluniau i gynnal asesiadau PIP ar gyfer hawlwyr bregus yn y lleoliad newydd yng nghanol y ddinas.
Bydd y safle asesu newydd yng Nghanolfan Menai ar gyfer y rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, ESA, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol a Veterans UK yn unig.
“Llaesu Dwylo”
“Mae ateb y Gweinidog yn dangos diystyrwch a difaterwch syfrdanol yr Adran Gwaith a Phensiynau tuag at anghenion hawlwyr ag anabledd difrifol yn fy etholaeth ac ar draws gogledd orllewin Cymru” meddai Hywel Williams AS.
“Mae cyd-leoli gwasanaethau budd-daliadau mewn safle hygyrch canolog ym Mangor yn gynnydd, ond mae gwneud hynny heb ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP ag anabledd difrifol sy’n dibynnu ar hygyrchedd a chysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy yn hollol anghywir.
“Mae’r ffaith bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llaesu dwylo i gywiro’r anghyfiawnder hwn a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anabledd difrifol yn ddim llai na gwarth.”
Angen sicrwydd
“Dylai unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y ganolfan bwysig hon fod â buddiannau hawlwyr anabl wrth ei wraidd,” ychwanegodd Hywel Williams, “gan gynnwys y cyfyngiadau ar eu gallu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i apwyntiadau.
“Byddaf yn galw am drafodaethau pellach â llywodraeth y Deyrnas Unedig i lobïo am weithredu ar yr anghyfiawnder sylfaenol hwn.
“Mae’n hen bryd i’r Adran Gwaith a Phensiynau symud ar hyn fel y gall pobl fregus gael rhywfaint o sicrwydd.”